Cannoedd yng Nghaerfyrddin yng ngŵyl gyhoeddi'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Disgyblion Ysgol Pum Heol, Llanelli, yn mwynhau'r cyhoeddi yng Nghaerfyrddin
Bu dros fil o blant a phobl ifanc yn gorymdeithio drwy Gaerfyrddin ddydd Sadwrn fel rhan o ŵyl gyhoeddi Eisteddfod Yr Urdd 2023.
Yn eu coch, gwyn a gwyrdd, fe ymgasglodd ysgolion a chymunedau ynghyd ym maes parcio San Pedr cyn gorymdeithio ar hyd strydoedd y dref a gorffen ym Mharc Caerfyrddin.

Pawb yn ymgynnull cyn gorymdeithio
Am y tro cyntaf, bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn nhref farchnad Llanymddyfri, a hynny rhwng y 29 Mai a 3 Mehefin.
Dyma fydd yr 8fed tro i'r Eisteddfod ymweld â Sir Gâr, gyda'r ymweliad cyntaf yn dyddio nôl i 1935 a'r fwyaf diweddar yn 2007.
Mynd amdani
Wedi tair blynedd o ddisgwyl oherwydd y pandemig, mae Carys Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Yr Urdd 2023 yn falch bod y cyfle wedi dod o'r diwedd i gael croesawu'r ŵyl i'r sir.

Beth sydd well na gweld plant a phobl ifanc yn mwynhau, medd Carys Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Yr Urdd 2023
Dywedodd: "Mae o'n fendigedig… Edrychwch ar heddiw, mae'r haul yn gwenu, mae'r parc yn llawn o fwrlwm a beth sydd well na gweld plant a phobl ifanc yn mwynhau.
"Mae wedi bod yn anodd achos mi gyrhaeddon ni ryw lefel lle doedd 'na ddim byd yn digwydd a wedyn fe ddaeth pethau yn ôl ar zoom a ballu. Erbyn hyn, galla' i ddweud wrthoch chi, mae'n sir enfawr, mae gynnom ni nifer fawr iawn o ysgolion ac aelwydydd a ballu ac ar ôl heddiw, dwi'n meddwl fyddwn ni'n mynd amdani."

Ynghyd â gorymdaith, roedd gwledd o adloniant yn y dref hefyd fel rhan o'r ŵyl groesawu gyda llu o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan.
O ddawnsio, chwaraeon, stondinau i dynnu hunlun gyda Mistar Urdd, roedd yna rywbeth at ddant pawb.
Wythnos o ddathlu
Eleni am y tro cyntaf, mae'r ŵyl groesawu yn ddigwyddiad wythnos o hyd gyda chyngerdd, cymanfa ganu, ynghyd ag ail orymdaith i gloi'r wythnos yn Llanymddyfri ei hun.

Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn sgil Covid, medd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau
Wrth drafod graddfa'r dathlu y flwyddyn hon, dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau: "Gan bod Sir Gaerfyrddin yn ddwy ranbarth i'r Urdd, roedden ni'n credu eu bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud gymaint mwy o weithgareddau a sicrhau bod y neges yn mynd allan.
"Mae wedi bod yn dair blynedd anodd iawn yn sgil Covid, ac o'r diwedd, mae rhyddid i gynnal gweithgareddau a dod at ein gilydd a chyhoeddi bod 'na Eisteddfod arbennig iawn yn mynd i fod yn Sir Gaerfyrddin, yn Llanymddyfri'r flwyddyn nesaf."
Er gwaetha'r cyffro a'r croeso cynnes yng Nghaerfyrddin, daw'r ŵyl ar adeg o alaru wedi marwolaeth y Frenhines, ond roedd yr Urdd yn gytûn nad oedd gohirio'n bwrpasol.

Dywedodd Siân Eirian: "Yn naturiol fe drafodon ni fel mudiad ond mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau clir a phendant a 'dan ni wedi dilyn y canllawiau hynny… Roedd o'n wahoddiad agored i bawb oedd yn dymuno bod yma efo ni heddiw a mae'n hyfryd gweld cynifer wedi ymuno efo ni."
Ychwanegodd Carys Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Yr Urdd 2023: "Dw'i ddim yn meddwl ein bod ni'n dangos unrhyw amarch at neb. Mae pethau'n digwydd, mi oedd yr Iron Man penwythnos ddiwethaf, mae'n rhaid i fywyd fynd yn ei flaen."
Gyda 253 o ddiwrnodau i fynd tan Eisteddfod yr Urdd 2023, yn ôl y trefnwyr, mae'n argoeli i fod yr Eisteddfod "orau erioed".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2022