Urdd: Trefn tri llwyfan a dim rhagbrofion i barhau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yr Urdd yn parhau â'r drefn o gael tri llwyfan yn lle un prif bafiliwn mewn eisteddfodau yn y dyfodol.
Fe wnaeth y mudiad gael gwared ar ragbrofion eleni - yn hytrach, roedd gan bob cystadleuydd y cyfle i gystadlu ar un o dri llwyfan.
Cafodd y newid ei gyflwyno ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn sgil cyngor diogelwch Covid-19.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, fod cystadleuwyr a chefnogwyr yn hapus mai "dyma'r strwythur ar gyfer y dyfodol".
"Wrth symud ymlaen dwi'n meddwl fel mudiad 'dan ni'n hapus iawn i gefnogi'r cais i barhau â'r drefn o tri phafiliwn - un coch, gwyn ac un gwyrdd," dywedodd.
Wrth drafod y newidiadau eraill fel y llwyfannau awyr agored, dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Urdd ar fin dechrau'r gwaith o werthuso'r holl newidiadau a gweld beth sy'n bosib eu cadw.
"Mae nifer o newidiadau wedi eu gwneud er mwyn dathlu Eisteddfod y canmlwyddiant, a fel mudiad fyddwn ni'n trafod gyda'r bwrdd celfyddydau a gwneud penderfyniad synhwyrol o ba rai fyddwn ni'n symud ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin y flwyddyn nesaf."
Roedd mynediad am ddim i'r ŵyl eleni wedi buddsoddiad ariannol gwerth £527,000 gan Lywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant yr Urdd.
Dywedodd y llywodraeth ei bod "mewn trafodaethau parhaus" ynghylch sut i gefnogi'r mudiad, ond gwrthododd ddweud a fyddai'r Urdd yn derbyn buddsoddiad i gynnal mynediad am ddim yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021