Pedwar o gantorion i gynrychioli'r Urdd yn Philadelphia

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cantorion Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dafydd Jones, Manon Ogwen, Siriol Jones a Tomos Bohanna yn canu yn Philadelphia nos Fercher

"Waw, anhygoel dwi ddim yn gwybod be i ddeud. Mae'n dipyn o sioc."

Dyna oedd ymateb y canwr ifanc Dafydd Wyn Jones o Ddinbych ddechrau'r haf, ar ôl cael gwybod bod ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yn golygu cael canu yng Ngŵyl Cymru Gogledd America.

Bellach mae e a thri o gantorion eraill a gafodd lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych wedi teithio 3,500 o filltiroedd ac wedi cyrraedd Philadelphia.

Bydd Siriol Elin, Manon Ogwen, Tomos Bohanna a Dafydd Jones yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol yr ŵyl flynyddol nos Fercher.

Yn bresennol yn yr ŵyl hefyd fydd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, a busnesau a chynrychiolwyr eraill o Gymru.

Mae'r ŵyl bum diwrnod yn cynnwys eisteddfod, cyngherddau a chymanfa ganu, ac mae'n cael ei chynnal yn flynyddol naill ai yn yr Unol Daleithiau neu Canada.

Yn ystod y daith bydd cantorion yr Urdd hefyd yn cael y cyfle i berfformio yn siop enwog Macy's ac yn cyflwyno diwylliant Cymru i strydoedd Philadelphia.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'Cyfle unigryw' ar ben-blwydd yr Urdd yn 100, medd y Prif Weithredwr Siân Lewis

Dywedodd Siân Lewis: "Ers 1922 mae Urdd Gobaith Cymru wedi annog pobl ifanc i wneud gwahaniaeth positif i'w cymunedau a hefyd ar draws y byd, drwy feithrin hunanhyder a chynnig amryw o gyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Yn ystod blwyddyn y 100 mae'r Urdd yn falch o gael cynnig cyfle unigryw i bedwar llysgennad hyrwyddo ein gwlad a'n hiaith i gynulleidfa newydd wrth rannu eu talent ar lwyfan rhyngwladol.

"Rydym yn edrych ymlaen at fynychu'r ŵyl ac i ddathlu iaith a diwylliant Cymru yn Philadelphia.

"Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i bwyllgor Gŵyl Cymru Gogledd America am y gwahoddiad ac am roi'r cyfle arbennig yma i bobl ifanc Cymru."

Cafodd y pedwar unigolyn eu dewis i gynrychioli'r Urdd yng Ngŵyl Cymru Gogledd America gan banel o feirniaid yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ac yn Eisteddfod T 2021 - pan orfodwyd yr ŵyl i fod yn ddigidol yn ystod y pandemig.

Mae'r pedwar a fydd yn ymweld â Gŵyl Cymru Gogledd America wedi elwa o rodd gan y diweddar Dr John M Thomas - Cymro oedd wedi ymgartrefu yn Florida.

Gadawodd Dr Thomas rodd i'r Urdd yn ei ewyllys gyda'r dymuniad o roi cyfle i bobl ifanc Cymru berfformio a theithio.

Mae Siriol Elin, 23, yn dod o Abergele; Dafydd Jones, 23, o Ddinbych; Manon Ogwen Parry, 22, o Fro Morgannwg ac mae Tomos Bohanna, 20, yn byw yng Nghaer.