Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-0 Hull

  • Cyhoeddwyd
Ryan Manning yn sgorio ei ail gôl yn ystod y tymor hwnFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Manning yn sgorio ei ail gôl yn ystod y tymor hwn

Mae'r fuddugoliaeth i Abertawe yn erbyn Hull yn rhyddhad mawr i gefnogwyr yr Elyrch wedi dechrau tymor rhwystredig ac anodd.

Brynhawn Sadwrn dechreuodd y tîm cartref yn ymosodol iawn a chafwyd o leiaf bedwar cyfle rhagorol i'w rhoi ar y blaen.

Ond ar waethaf hynny ni lwyddodd y blaenwyr i gyrraedd cefn y rhwyd. Roedd Joe Allen yn chwarae yn rhagorol ond ar ôl hanner awr roedd yn bryder i gefnogwyr Cymru gweld Allen yn gorfod gadael y maes wedi anaf i'w ben-glin.

Roedd Hull yn cael mwy o afael ar y gêm tua diwedd yr hanner cyntaf, ond di-sgôr oedd hi ar hanner amser.

Yn ystod yr ail hanner roedd Abertawe yn parhau yn ymosodol gyda Luke Cundle yn taro'r bar ac roedd ergydion da gan Mathew Sorinola, Joel Piroe a Ben Cabango.

Yna ar ôl 61 munud fe ddaeth y gôl o'r diwedd a Ryan Manning yn rhwydo o ymyl y blwch chwech llath wedi pas gan Sorinelo. Ymhen tair munud roedd y flaenoriaeth wedi ei dyblu gydag ergyd droed dde gan Luke Cundle yn cyrraedd cornel chwith y rhwyd.

Gyda phum munud ar ôl o'r gêm fe gafodd Joel Piroe gôl - camgymeriad gan amddiffynwyr Hull yn gosod cyfle rhwydd iawn i Piroe a'r bêl yn cael ei phlannu yng nghanol y rhwyd.

Yn union wedi'r drydedd gôl fe ddaeth eilydd Abertawe i'r maes sef Michael Obafemi - chwaraewr oedd wedi dymuno gadael Abertawe yn ystod yr haf.

Fe'i croesawyd i'r maes, er fod peth bwio iddo hefyd ond y mae'n ymddangos ei fod ef a'r rheolwr Russel Martin bellach wedi cymodi. Daeth Obafemi yn agos iawn at greu gôl yn y munudau olaf.