Caerdydd yn diswyddo'r rheolwr Steve Morison

  • Cyhoeddwyd
steveFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tîm pêl-droed Caerdydd dechrau siomedig i'r tymor dan arweiniad Steve Morison

Mae clwb pêl-droed Cardiff wedi diswyddo'r rheolwr Steve Morison ar ôl dechrau siomedig i'r tymor.

Mae'r Adar Gleision yn 18fed yn y Bencampwriaeth ar ôl y 10 gêm gyntaf.

Fe gymerodd cyn ymosodwr Cymru yr awennau ym mis Hydref 2021 ar ôl i Mick McCarthy golli ei swydd.

Fe brynodd Morison 17 o chwarewyr newydd yn ystod yr haf, ond dim ond tair gêm mae Caerdydd wedi eu hennill yn y gynghrair.

Mark Hudson fydd yn gofalu am y garfan dros dro, gyda help Tom Ramasut, tan y bydd y bwrdd wedi ystyried eu camau nesaf.

'Wedi helpu i esblygu'r garfan'

Mewn datganiad fe ddiolchodd y clwb i Steve Morison am ei gyfraniad:

"Fe hoffem ddiolch i Steve am ei ymdrechion yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb, yn sefydlogi'r tîm y tymor diwethaf a helpu i esblygu'r garfan. Ry'n ni'n dymuno yn dda iddo i'r dyfodol."

Ar ôl achub y clwb rhag syrthio i'r Adran Gyntaf y tymor diwethaf fe gafodd Morison gytundeb newydd tan ddiwedd y tymor hwn.

Fe lwyddodd Caerdydd i ennill y gêm agoriadol yn erbyn Norwich City ond dim ond dwy gêm maen nhw wedi ennill ers hynny - 1-0 gartref yn erbyn Birmingham a buddugoliaeth oddi cartref o 3-2 yn Middlesbrough.

Fe gollon nhw oddi cartref yn Huddersfield ddydd Sadwrn o 1-0 - y pumed tro iddyn nhw fethu a sgorio.

Maen nhw nawr yn y 18fed safle, un pwynt uwchben y pedwar safle isaf.