Pennaeth Radio Cymru yn amddiffyn newid amserlen yr orsaf
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Dafydd Meredydd ei sylwadau mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C nos Fawrth
Mae pennaeth Radio Cymru wedi awgrymu nad ydy ffigyrau gwrando rhaglen Geraint Lloyd yn cynrychioli "gwerth am arian" i weddill cynulleidfa'r orsaf.
Cyhoeddwyd fis diwethaf mai Caryl Parry Jones fyddai cyflwynydd newydd slot rhaglen Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru.
Cafodd deiseb ei lansio yn sgil y penderfyniad i ddod â'r rhaglen i ben, ac mae protest wedi'i threfnu yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Daeth hynny yn dilyn newidiadau i arlwy'r orsaf, a olygai y bydd rhaglenni Geth a Ger a Stiwdio, sy'n cael ei gyflwyno gan Nia Roberts, hefyd yn diflannu o fis Hydref.
Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C, dywedodd pennaeth gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd nad oedd wedi'i synnu gyda'r ymateb i gael gwared ar raglen hwyr Geraint Lloyd.
Targedu'r 'gynulleidfa sydd ddim yn gwrando'
Dywedodd: "Dim o gwbl, dwi'n falch bod yr ymateb yna - mae'n dangos fod gwrandawyr Radio Cymru yn hapus i leisio'u barn. Maen nhw'n wrandawyr ffyddlon, triw.
"Ond hefyd mae'n rhaid i ni fod yn realistig ac mae'n rhaid i ni fod yn onest efo ni'n hunan. Efo'r wasgfa ariannol sydd o ran y ffi drwydded yn rhewi, o ran chwyddiant... mae'n rhaid i ni sicrhau gwerth am arian gora' i wrandawyr Radio Cymru."
Mewn ymateb i gwestiwn am a oedd wedi ailystyried y penderfyniad i ddiddymu rhaglen Geraint Lloyd yn sgil y ddeiseb, atebodd: "Gant y cant.
"'Da ni'n trafod hyn drwy'r amser ond hefyd pan 'da ni'n edrych ar y ffigyrau moel o ran faint o bobl sydd yn gwrando, dydy hynny ddim yn rhoi y gwerth am arian gora' i'r gynulleidfa ehangach ac mae'n rhaid i ni gofio hefyd am y gynulleidfa sydd ddim yn gwrando, a dyna fyddwn ni'n targedu rŵan."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Awgrymodd hefyd y byddai rhaglen gelfyddyddol yn cymryd lle rhaglen Stiwdio.
"Nid y ffigyrau gwrando ydy'r unig beth pan mae'n dod i'r celfyddydau, ond mae'n rhaid i ni gael rhyw fath o blatfform i'r celfyddydau yng Nghymru," meddai.
"'Da ni'n datblygu'r platfform newydd a'r fformat newydd a hynny ar ôl ymgynghori efo unigolion a sefydliadau o fewn y sector celfyddydau.
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn," ychwanegodd.
Ddydd Mawrth hefyd, daeth cyhoeddiad mai Rhydian Bowen Phillips, Lisa Gwilym a Dom James fydd cyflwynwyr newydd Radio Cymru 2, wrth i'r gwasanaeth ymestyn ei oriau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022