Yr olion tanddwr ddaeth i'r golwg yn sychder yr haf
- Cyhoeddwyd
Mae sychder yr haf wedi datgelu rhai o'r cyfrinachau sy'n cael eu cadw dan ddŵr ein cronfeydd a'n hafonydd gan gynnwys olion adeiladau, pentrefi a thirwedd sydd wedi bod dan yr wyneb ers degawdau.
Dyma gip yn ôl ar rai o'r llefydd ddaeth i'r golwg yn haf 2022.
Cronfa Llwyn Onn
Daeth yr hen bont a dolydd gwastad y dyffryn yma sydd fel arfer o dan y dŵr i'r golwg yng nghronfa Llwyn Onn yn Fforest Fawr, Bannau Brycheiniog fis Gorffennaf.
Mae'r gronfa yma yn dyddio nôl i'r 1920au pan ddechreuodd ddarparu dŵr i Gaerdydd.
Llyn Brianne
Yn Llyn Brianne yn Sir Gaerfyrddin, daeth hen fferm y Fannog i'r golwg.
Mae wedi bod yn wag ers diwedd yr Ail Ryfel Byd ac fe aeth o dan y dŵr pan adeiladwyd cronfa ddŵr Brianne ar ddechrau'r 1970au i wasanaethu de Cymru.
Bob hyn a hyn mae'r fferm yn ail ymddangos, a'r adeilad erbyn hyn yn un o atyniadau dirgel Dyffryn Tywi.
Cwm Elan
Mae gostyngiad lefelau dŵr cronfeydd Cwm Elan wedi amlygu siâp y dyffryn a foddwyd i gronni dŵr i ateb galw trigolion Birmingham.
Cafodd chwech argae ei adeiladu yn y cwm ar afonydd Elan a Chlaerwen - agorwyd rhan gyntaf y datblygiad yn swyddogol yn 1904.
Symudwyd 100 o drigolion y cwm a chwalwyd tri phlasty, 18 o ffermydd, ysgol ac eglwys.
Ger cronfa Caban Coch fe wnaeth y sychder ddatgelu hen bont a gardd furiog.
Llyn Clywedog
Ar lannau newydd-eu-datgelu Llyn Clywedog mae adfeilion Fferm Aberbiga ger Llanidloes wedi dod i'r fei - cartref genedigol tad y canwr Aled Wyn Davies.
Yn dilyn tywydd sych yn Awst a Medi, aeth Aled a'i deulu i ymweld â'r hen ffermdy a chofio am rai o'r straeon a basiwyd i lawr iddynt am yr hen gartref teuluol.
Boddwyd ardal Clywedog yn 1967 er mwyn creu cronfa Llyn Clywedog i reoli llif afon Hafren a darparu dŵr yfed i bobl canolbarth Lloegr.
Tryweryn
Unwaith eto, daeth rhai o olion pentref Capel Celyn i'r golwg, gan ailgodi'r teimladau dwfn sy'n perthyn i amgylchiadau creu cronfa Tryweryn.
Yn ogystal ag adeiladau mae olion hen gloddiau yn rhoi darlun o'r hen gymdeithas oedd yn byw ac amaethu yma cyn boddi'r cwm.
Cantref
Ar ôl misoedd o lawiad isel a thywydd poeth fe sychodd afonydd ym Mannau Brycheiniog gan ostwng cronfa ddŵr Cantref i ddatgelu'r pridd cochlyd.
Cronfa a adeiladwyd ym Mannau Brycheiniog rhwng 1886 and 1892 i ddarparu dŵr i Gaerdydd yw Cantref.
Llyn Efyrnwy
Yn Llyn Efyrnwy ym Mhowys daeth tir oedd unwaith yn dir ffermio i'r golwg yn ogystal â hen ffyrdd pentref gwreiddiol Llanwddyn, a gafodd ei symud i lawr y cwm.
Cafodd y llyn ei greu yn 1892 oherwydd bod pobl Lerpwl angen cyflenwad cyson o ddŵr wrth i'r ddinas dyfu'n gyflym ddiwedd yr 19eg ganrif.
Llyncodd y gronfa ddŵr 1200 erw o dir oedd yn eiddo i Iarll Powys ac yn gartref i 37 o dai, 10 o ffermydd, eglwys, swyddfa bost, melin, dau gapel a thair tafarn.
Mae wedi bod yn un o'r hafau sychaf ar record, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan statws sychder i Gymru gyfan ddechrau Medi ar ôl cyhoeddi gwaharddiad ar bibellau dŵr yn ne Cymru am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd ym mis Awst.
Cafodd Cymru 56.7% o'i glawiad disgwyliedig yn y chwe mis rhwng Mawrth ac Awst - y trydydd cyfnod sychaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1865.
Gyda diolch i Gomisiwn Brehinol Henebion Cymru, dolen allanol am eu lluniau o'r awyr. Mae modd chwilio drwy eu catalogau ar wefan Coflein., dolen allanol.