Cyflog Byw Go Iawn: 18,000 i gael cyflogau uwch yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 18,000 o bobl yng Nghymru'n cael codiad cyflog wrth i'r Cyflog Byw Go Iawn godi i £10.90 yr awr.
Mae 500 o gwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys Dŵr Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, yn rhan o'r cynllun gwirfoddol.
Mae'r Sefydliad Cyflog Byw Go Iawn, sy'n gyfrifol am y cynllun, yn dweud bod angen codiadau cyflog o ganlyniad i'r cynnydd sylweddol mewn costau byw.
Bydd cyflogau'n codi £1 i £10.90 yr awr, sy'n gynnydd o 10.1%.
Mae sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, holl brifysgolion Cymru a Dŵr Cymru wedi addo i dalu'r Cyflog Byw Go Iawn.
Beth ydy'r Cyflog Byw Go Iawn?
Mae'r Cyflog Byw Go Iawn yn wahanol i gynllun Cyflog Byw Cenedlaethol Llywodraeth y DU - lle mae gweithwyr dros 23 oed yn ennill £9.50 yr awr.
Byddai rhywun sy'n gweithio'n llawn amser i gwmni sy'n talu'r Cyflog Byw Go Iawn yn ennill £2,730 y flwyddyn yn fwy na rhywun sy'n ennill y Cyflog Byw Cenedlaethol.
Mae'r gyfradd yn ystyried costau fel bwyd, biliau ynni, gofal plant a chostau teithio.
Mae'n cael ei ail-asesu'n flynyddol i adlewyrchu costau byw gwirioneddol, ac yn cael ei gyhoeddi bob mis Tachwedd fel arfer, ond oherwydd yr argyfwng costau byw mae'r gyfradd newydd wedi ei gyhoeddi'n gynharach eleni.
Dylai cyflogwyr weithredu'r codiad cyflog cyn gynted ag y bo modd, ac o fewn 6 mis.
Cwmni arall sy'n talu'r Cyflog Byw Go Iawn ydy cwmni glanhau Sparkles yn Y Barri.
"Mae ennill fwy wedi newid y ffordd rwy'n byw fy mywyd," meddai Cai Pridham, 21, un o staff Sparkles.
Mae Cai yn byw gyda'i fam a'i chwaer yn Llanharan, Rhondda Cynon Taf, ac fe wnaeth gais i weithio i gwmni Sparkles Cleaning Services ar ôl gweld eu bod nhw'n talu'n uwch na'r Cyflog Byw Cenedlaethol.
"Mae gen i arian ychwanegol ar ôl ddiwedd bob mis, rhywbeth doedd genna'i erioed o'r blaen.
"Rwy'n gallu defnyddio'r arian tuag at arbed am dŷ, rhywbeth doeddwn i erioed wedi ystyried yn bosib cyn hyn."
Mae talu cyflog teg yn rhan o ethos y cwmni, yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Sparkles.
"Mae o yn gwneud gwahaniaeth i rywun. Mae'n dangos eich bod yn eu gwerthfawrogi nhw, ac maen nhw'n d'eud ei fod o yn eu helpu nhw," meddai Ceri Jennings, 54.
"Felly mae'n elwa ni fel cyflogwyr, gan fod staff yn driw i ni ac maen nhw wastad yn fodlon gwneud ychydig yn fwy i ni bob hyn a hyn."
"Mae staff yn aros gyda ni lawer hirach ac mae'n cwsmeriaid ni yn hoffi gweld yr un unigolion hefyd."
Staff bodlon yn 'hollbwysig'
Mae cwmni coffi Coaltown o Rydaman yn cyflogi 17 o bobl ac yn un o'r cwmnïau sy'n cyflwyno'r cyflog byw newydd.
Dywedodd John Clarke, un o'r cyfarwyddwyr, fod y cyflog yn cyd-fynd ag ethos y cwmni, o ran bod yn fusnes cynaliadwy sy'n cefnogi'r gymuned leol.
"Un o'r pethau tu ôl sefydlu'r cwmni oedd i gael cyflogaeth gynaliadwy mewn cymuned ôl-ddiwydiannol, fel Rhydaman, sy' hefyd yn egluro enw'r cwmni."
Roedd yn derbyn fod yna gost ychwanegol ond fod y cyflog byw yn rhywbeth pwysig o ran ethos y cwmni.
"Mae yna dri peth pwysig i ni fel cwmni - tri chonglfaen - cynnyrch da, perfformiad da a bodloni'n cwsmeriaid.
"Ac wrth gwrs o ran y ddau beth ola' mae'n hollbwysig cael staff da a bodlon, ac mae'n rhaid eu cadw nhw yn keen a phositif."
Sut fydd cwmnïau'n fforddio talu?
Mae'r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod tâl bob awr yn is yng Nghymru na bron i unrhyw ran arall o'r DU, ac mae'r Sefydliad Cyflog Byw Go Iawn yn dweud bod un ymhob pum person yma yn ennill llai na'r cyflog byw.
"Mi fydd gweithwyr yn gweld eu cyflogau'n codi ar yr un raddfa a chostau byw," meddai Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru, sy'n gweithredu'r cynllun yng Nghymru.
"Mae hi'n gyfnod anodd i bawb, felly mae'n galonogol bod nifer y cyflogwyr yn ein rhwydwaith wedi tyfu gyda 135 yn rhagor wedi ymuno ers y llynedd."
Ond mae cadeirydd cymdeithas y cyflogwyr CBI Cymru, Ian Price, yn poeni am sut bydd rhai cwmnïau'n gallu fforddio'r cynnydd.
"Mae'n hawdd gweld sut maen nhw wedi cyrraedd y ffigwr yma, mae chwyddiant yn cael effaith anhygoel ar beth sy'n mynd ymlaen," meddai.
"Ond mae busnesau'n wynebu cymaint o heriau felly rydan ni'n poeni sut bydd rhai cwmnïau sydd wedi cytuno i'w dalu fo'n gallu gwneud hynny.
"Does dim atebion hawdd ar hyn o bryd, ond mi fydd yn rhaid i fusnesau wneud dewisiadau caled."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd3 Medi 2022