Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cap ar filiau ynni busnesau

  • Cyhoeddwyd
PobiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y prisiau cyfanwerthol yn sefydlog ar gyfer pob busnes, sef £211 fesul MWh o drydan a £75 fesul MWh o nwy

Mae grŵp sy'n cynrychioli busnesau yng Nghymru yn dweud bod gan eu haelodau "rhyw fath o sicrwydd" yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gap ar filiau ynni.

Bydd y pecyn cymorth y golygu fod biliau ynni busnesau yn cael eu cyfyngu i tua hanner eu lefel disgwyliedig y gaeaf hwn.

O ganlyniad i'r cynllun bydd prisiau ynni cyfanwerthol ar gyfer pob cwmni yn cael eu capio am gyfnod o chwe mis.

O 1 Hydref bydd ysbytai, ysgolion a lleoliadau eraill fel neuaddau cymunedol ac eglwysi hefyd yn derbyn y gefnogaeth, gyda phrif weinidog y DU yn dweud y bydd yn "cynnig sicrwydd a thawelwch meddwl".

Daw'r ymyrraeth bellach yn y farchnad ynni wedi i'r llywodraeth gyhoeddi cynllun gwerth £150bn i helpu cartrefi gyda'u biliau am gyfnod o ddwy flynedd.

'Galluogi i ni gynllunio'

Dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru bod ei haelodau wedi gweld cyfnod "hynod o anodd" o gostau cynyddol.

Yn ôl cadeirydd polisi y ffederasiwn, Ben Francis, bydd y cyhoeddiad yn galluogi busnesau i gynllunio tuag at gyfnod y Nadolig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ben Francis fod costau cynyddol yn golygu fod busnesau'n wynebu sefyllfa "hynod o anodd"

"Mae'n werth cofio nad yw aelodau Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn gorfforaethau rhyngwladol. Nid ydynt yn fusnesau FTSE 100," meddai.

"Busnesau bach yw'r rhain, sy'n eiddo i bobl arferol gyda morgeisi i'w talu, teulu i'w bwydo ac, ar y gorwel, Nadolig i gynllunio ar ei gyfer.

"Maen nhw wedi crafangu eu ffordd trwy bandemig Covid-19. Nawr, o'r ochr arall, maent wedi cael y cynnydd digynsail hwn mewn costau ynni."

Dywedodd Mr Francis fod y gost gynyddol o wneud busnes yn golygu bod y sefyllfa sy'n wynebu ei aelodau yn "hynod o anodd".

Ychwanegodd bod y cyhoeddiad ddydd Mercher yn rhoi "rhyw fath o sicrwydd".

"Mae'n caniatáu i'r busnesau hyn gynllunio tuag at gyfnod y Nadolig," meddai.

"Rydym yn croesawu'r ffaith y bydd adolygiad ar ôl tri mis, a fydd yn galluogi pob parti i bwyso a mesur y sefyllfa a pha mor effeithiol fu'r pecyn cymorth, gyda'r bwriad o'i ymestyn o bosib."

'Pwysau enfawr'

Dyw swyddogion heb gyhoeddi cost y cymorth ​​diweddaraf i gwmnïau, gan y bydd y gost yn y pendraw yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd i bris y farchnad gyfanwerthol rhwng mis Hydref a mis Ebrill, pan ddaw'r cymorth presennol i ben.

O dan y cynllun, a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Diwydiant, bydd prisiau cyfanwerthol yn sefydlog ar gyfer pob cwsmer ynni annomestig, sef £211 fesul MWh o drydan a £75 fesul MWh o nwy.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Truss fod y llywodraeth yn deall y "pwysau enfawr" y mae busnesau yn eu hwynebu gyda'u biliau ynni

Nid oes angen i gwmnïau gysylltu â'u cyflenwyr gan y bydd hyn yn cael ei wneud iddynt yn awtomatig.

Yn ôl Llywodraeth y DU bydd y pris yn "llai na hanner y prisiau cyfanwerthu a ragwelir y gaeaf hwn", gan ychwanegu y bydd yr arbedion i'w gweld ym miliau mis Hydref ymlaen.

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Liz Truss, fod y llywodraeth yn deall y "pwysau enfawr y mae busnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus yn eu hwynebu gyda'u biliau ynni".

"Fel yr ydym yn ei wneud i ddefnyddwyr domestig, bydd ein cynllun newydd yn cadw eu biliau ynni i lawr o fis Hydref, gan gynnig sicrwydd a thawelwch meddwl," meddai.

"Ar yr un pryd, rydyn ni'n rhoi hwb i'r cyflenwad ynni sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain fel y gallwn drwsio gwraidd y problemau rydyn ni'n eu hwynebu, gan olygu mwy o sicrwydd ynni i ni oll."

Galw am raglen insiwleiddio

Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi galw am dreth untro ar gwmnïau olew a nwy, gan ddweud y dylai'r arian hwnnw fynd tuag at insiwleiddio

Ychwanegodd eu harweinydd yn San Steffan, Liz Saville Roberts, y gallai buddsoddiad o £3.6bn arbed £418 y flwyddyn ar filiau ynni cartrefi, a chynnig "hwb i'r diwydiant adeiladu a'r economi ehangach".

"Bydd gwrthod buddsoddi mewn insiwleiddio rŵan yn cloi cartrefi i mewn i ddegawdau o dlodi tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud elw grotésg," meddai.

"Rydym felly'n annog Liz Truss i gymryd y cynigion hyn o ddifrif."

Dywedodd AS Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, Fay Jones y dylai'r llywodraeth fod wedi gwneud y cyhoeddiad ar lawr Tŷ'r Cyffredin er mwyn iddyn nhw allu "craffu" ar y manylion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fay Jones AS y dylai cwmnïau olew ystyried gostwng yr isafswm sy'n rhaid i gwsmeriaid brynu ar y tro

Ychwanegodd bod y llywodraeth eisoes wedi cynnig £400 i bob cartref yn gynharach eleni er mwyn helpu gyda chostau biliau, ond bod pryderon pellach am yr effaith ar gymunedau gwledig y gaeaf hwn.

"Dydy tua dau draean o fy etholwyr ddim ar y grid," meddai. "Dwi'n gwybod nad yw e just yn broblem am brisiau, mae am argaeledd hefyd.

"Dwi'n gwybod fod pobl yn ffonio cwmnïau olew, yn trio archebu llwyth ond methu cytuno ar bris achos mae hynny bythefnos o flaen llaw."

Ychwanegodd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod bil ynni Llywodraeth y DU "ddim yn agos at fod yn ddigon" i helpu cynghorau.

"Gallai costau ynni i awdurdodau lleol gynyddu hyd at 285%, felly dyw gostyngiad o 50% ddim yn agos at fod yn ddigon ac mae'r gefnogaeth honno ond am chwe mis," meddai.

Daeth ei sylwadau'n dilyn rhybudd ym mis Awst y gallai cynnydd yng nghostau ynni effeithio ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.