Rhannu'r un goeden deulu â'r Tywysogion Cymreig
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n honni ei bod yn perthyn i Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr neu Owain Gwynedd ac wedi ei cymryd yn ysgafn?
Efallai y dylech gymryd ei gair. Mae'r nifer o Gymry, neu bobl o dras Cymreig, sydd â choed teuluol sy'n mynd 'nôl ymhellach na'r ddeunawfed ganrif yn fychan, er y gallai canran uchel fod yn perthyn i'r Tywysogion Cymreig, yn ôl yr hanesydd Nia Powell.
Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Megan Cynan Corcoran, disgynnydd i Dywysogion Gwynedd a Nia Powell am hel achau.
Mae Megan sydd o bentref Nantmor ger Beddgelert yn gwybod ers degawdau ei bod yn un o linach Rhodri Fawr, brenin Gwynedd, Powys, a'r Deheubarth fu'n byw yn y nawfed ganrif.
Gadawodd Rhodri Fawr chwe mab, a daeth dau ohonynt yn sylfaenwyr llinachau brenhinol yn y Canol Oesoedd - Anarawd, sylfaenydd teulu Aberffraw, a Chadell, tad Hywel Dda, a sylfaenydd teulu Dinefwr.
Disgynnydd i Anarawd yw Megan Cynan, a thrwy hynny, linach Tywysogion Gwynedd gan gynnwys Gruffydd ap Cynan, Owain Gwynedd, Llywelyn Fawr a Llywelyn ein Llyw Olaf.
Ond sut mae Megan yn siŵr o hyn?
Eglura: "Mi ddaru fy hen fodryb, Mari Gwalia Roberts olrhain y goeden deulu yn ôl i Rhodri Fawr, drwy deulu'r Anwyliaid gan mod i'n ddisgynnydd i deulu Parc, Llanfrothen. Wnaeth hi gasglu'r wybodaeth a rhoi copïau o'r goeden yn anrheg i amryw o aelodau a changhennau o'r teulu yn Nadolig 1983.
"Magwyd fy modryb sef chwaer fy nain yng Ngarddllygaidydydd, Nantmor, ond yn Aberystwyth oedd hi'n byw. Gan ei bod yn Aber, roedd mynediad rheolaidd at gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol yn hanfodol iddi, ond mae yna gymaint o ffynonellau eraill yn yr ymchwil, fel cofnodion y Sesiynau Mawr, llyfrau hanes teuluol ac yn debyg iawn, lot fawr o ymweliadau â mynwentydd ac eglwysi."
Ydy pawb a'i fam yn perthyn i Owain Gwynedd?!
Nid Megan a'i theulu yw'r unig rai sy'n gallu olrhain eu hachau nôl i Owain Gwynedd.
Mae archif o 1969 yn ystod cyfnod yr Arwisgo yn dangos Owain Hughes o Ysgubor Fadog, Sir Fôn wnaeth enwi ei feibion yn Owain a Gwynedd ar ôl Tywysog cyntaf Cymru, y mae'n daer ei fod yn perthyn iddo. Mae Elinor Jones o Ddeiniolen hefyd yn dweud ei bod yn perthyn i Hywel Dda.
Yn 2020 darganfyddodd y comedïwr Greg Davies sydd o dras Cymreig ei fod yntau'n ddisgynnydd i Owain Gwynedd ar y rhaglen Who Do You Think You Are ar BBC1.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Perthyn i waed y tywysogion yn bosib iawn'
Ni ddylem synnu at y nifer sy'n gallu olrhain ei hachau i waed y Tywysogion yn ôl yr hanesydd Nia Powell.
Eglura: "Mae'n debyg bod canran uchel o boblogaeth gynhenid y wlad yn perthyn i waed y Tywysogion - wedi'r cyfan, mae'n debyg bod gan Owain Gwynedd yn y ddeuddegfed ganrif 21 o blant cydnabyddedig o naw o wahanol ferched! Mae ystadegau'n awgrymu ei bod yn anodd osgoi bod yn un o'i ddisgynyddion mewn gwirionedd.
"Mae yna hen hen draddodiad o hel, adrodd a chofnodi achau yng Nghymru a hynny ymhlith amrywiol haenau cymdeithasol ac am wahanol resymau. I'r teuluoedd tywysogol, roedd olyniaeth yn bwysig i awdurdod. Nid olyniaeth i fab hynaf oedd yn digwydd yng Nghymru ond dewis rhwng grŵp o bobl oedd yn perthyn i'w gilydd. Felly roedd o yn bwysig gwybod gwaed pwy oedd yn perthyn i bwy.
"Un peth sydd wedi cysylltu llawer iawn o bobl efo achau sy'n mynd yn bell nôl ydy'r hen Griffith's Pedigrees (1914) ac Achau Lewys Dwnn a olygwyd gan Samuel Rush Meyrick (1846). Roedd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl fynd yn ôl a chysylltu efo hen, hen deuluoedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os oeddach chi yn perthyn i linach uchelwrol neu frenhinol yna oeddach chi'n gallu mynd yn ôl cyn hynny hefyd.
"Dyna oedd yn digwydd a dyna sydd wedi digwydd efo'r bobl yn yr archif o 1969 - mae'r ymchwilwyr wedi mynd yn ôl i'r hen gyhoeddiadau yma oedd yn seiliedig ar hen lawysgrifau."
Yr Anwyliaid a'r Tywysogion
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn nodi i deulu'r Anwyliaid Parc, Llanfrothen wisgo arfbais Owain Gwynedd sy'n wyrdd ac yn cynnwys tri eryr. Roedd yr Anwyliaid, uchelwyr o'r unfed ganrif ar bymtheg yn ddisgynyddion i Owain Gwynedd a byddai teulu tiriog a blaenllaw o'r fath yn cymryd balchder mawr mewn cofnodi achau.
Cawsai'r Anwyliaid eu hadnabod fel "un o'r hen deuluoedd parchus Cymreig" ac fel cymwynaswyr i ddiwylliant Cymru ac fel noddwyr beirdd. Bosib iawn bod eu hachau a'u perthynas â'r Tywysogion Cymreig wedi creu ymdeimlad dwfn o Gymreictod ynddyn nhw.
'Gweld fy enw i ar waelod coeden Rhodri Fawr yn reit nyts!'
Ganrifoedd a chenedlaethau a sawl cangen ac ach yn ddiweddarach, mae Megan yn teimlo'r un angerdd am hanes ei theulu a hanes Cymru.
Eglura: "Mae'r teulu Anwyl yn amlwg iawn yn y goeden. Dwi'n lwcus iawn i gael gweithio yn Storiel, Bangor ac yn ein casgliad mae cist fawr- y Gist Waddol oedd yn rodd i Lewis a Kathrine Anwyl i'w cartref yn y Parc ar achlysur eu priodas yn 1671. Mae'n anhygoel meddwl bod y gist wedi bod yn rhan o hanes fy nheulu.
"Mae gweld yr enwau rydan ni yn ddysgu amdanynt yn hanes Cymru ar ben dogfen a'n enw i ar y gwaelod yn reit nyts. Dwi'n hynod ddiolchgar i Mari Gwalia am greu y campwaith yma!
"Digon posib fod bod yn ddisgynnydd o Rhodri Fawr wedi dyfnhau fy nheimlad o Gymreictod - wedi'i gario o un cenhedlaeth i'r llall, pwy a wŷr!
"Ond mae gweld yn y goeden, enwau cartrefi lleol, enwi Eglwys Beddgelert fel man bedydd neu briodas, gweld enwau fy nghyndadau oedd yn fyw pan roedd digwyddiadau mawr yn hanes Cymru, pan lladdwyd Llywelyn, Owain Glyndŵr yn codi gwrthryfel, yr holl newidiadau i fywyd pob dydd yn oes y Tuduriaid a bod rheini yn codi bob bore ac yn gweld yr un tirlun, yr un mynyddoedd yn rhoi cyswllt annatod i fy ardal.
"Mae yna enwau gwych i fod yn perthyn iddyn nhw hefyd - fel Tegwared y Bais Wen, Rhys Gloff ac wrth gwrs Hywel Dda!"
Sut mae hel eich achau i'r Oesoedd Canol?
Petaech chi eisiau hel eich achau i ddarganfod pwy oedd eich cyn-deidiau chi yng Nghymru, boed yn deulu tiriog neu'n werin, dyma gyngor Nia Powell: "Un adnodd mawr pwysig ydi dogfennau'r cyfrifiad sydd i'w gweld o 1801 ymlaen, dyna pryd oedd y cyfrifiad mawr cyntaf.
"Maent i'w gweld bob degawd hyd 1921 a'r rhai cynharaf sy'n cynnwys enwau yw cofnodion 1841.
"I fynd nôl ymhellach bydd angen edrych ar amrywiaeth o ffynonellau - cofrestri plwyf efallai yw'r ffynhonnell amlycaf. Mae nifer o rhain yn mynd nôl i'r ail ganrif ar bymtheg ac os ydych yn lwcus iawn, ganrif ymhellach hyd yn oed.
"Ond mae yna gofnodion eraill hefyd, cofnodion trethi er enghraifft gan gynnwys trethi tir a'r degwm, gweithredoedd eiddo os digwydd i'r teulu fod yn diriog a llawysgrifau niferus sy'n cynnwys achau.
"Mae ewyllysiau hefyd yn arbennig o werthfawr. Ond peidiwch diystyru gair llafar rhywun chwaith. Arferai pobl gyfarfod mewn mynwentydd ar y Sul yng Nghymru i adrodd achau er difyrrwch, ac i wybod pwy allai briodi pwy o gyfnod cynnar iawn.
"Mae angen defnyddio cymysgedd o ffynonellau i fynd nôl ymhellach."
Hefyd o ddiddordeb: