Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 6-0 Torquay
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n sioe a hanner ar y Cae Ras wrth i Wrecsam sicrhau buddugoliaeth hawdd.
Fe agorwyd y sgorio wedi 11 munud diolch i beniad y bachgen lleol, Jordan Davies.
Erbyn yr egwyl roedd 'na dair gôl ar y sgorfwrdd diolch i gyfraniadau'r ymosodwyr, Paul Mullin ac Ollie Palmer.
Ond gyda'r gem yn edrych yn gyfforddus, doedd na ddim tawelu ar y Dreigiau wrth i Aaron Hayden benio pedwerydd.
Wedi dod ymlaen fel eilydd, roedd hi hefyd yn brynhawn i gofio i Sam Dalby wrth i'r ymosodwr ifanc rwydo'i gôl gyntaf i'w glwb o flaen torf o bron i 10,000.
Cwblhawyd brynhawn diflas Torquay diolch i gôl Anthony Forde yn ystod yr amser a ychwanegwyd am anafiadau.
Ond er y canlyniad, mae'r Dreigiau yn parhau yn ail yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr diolch i gôl hwyr Chesterfield yn eu gêm oddi cartref yn Maidenhead.