Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 23-17 Munster

  • Cyhoeddwyd
Craig CaseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Craig Casey o Munster yn cael ei daclo gan Ben Carter

Roedd 'na ddathlu ar Rodney Parade wrth i'r Dreigiau drechu eu hymwelwyr Gwyddelig mewn gêm llawn cyffro.

Roedd hi'n ddiweddglo ffyrnig wrth i'r Dreigiau geisio diogelu eu mantais cyn i JJ Hanrahan sicrhau'r fuddugoliaeth gyda chic gosb hwyr.

Roedd yn un o chwe chic gosb i Hanrahan, gyda chais wych Rio Dyer yn profi i fod yn dyngedfenol.

Daeth ceisiau Munster gan Stephen Archer a Ben Healy cyn yr egwyl, gyda Healy yn cicio saith pwynt ychwanegol.

Roedd rheswm ychwanagol i'r Dreigiau ddathlu gan mai hon oedd eu buddugoliaeth gartref gyntaf mewn bron i flwyddyn a hanner.

Pynciau cysylltiedig