Minlliw yn gwerthu pan mae arian yn brin
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r esgid wasgu, fe all rywun feddwl mai gwario llai ar y nwyddau rheiny sydd ddim yn angenrheidiol y bydden ni - pethau fel colur o bosib.
Ond mae data'n awgrymu mai'r gwrthwyneb sy'n wir mewn cyfnodau anodd - cymaint felly fel bod y term lipstick index wedi ei fathu i'w ddisgrifio, a bod hynny yn ei dro yn gallu dylanwadu'n bell-gyrhaeddol ar yr economi.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, ond bellach yn byw yn Llundain, Rhiannon Derbyshire, golygydd harddwch cylchgrawn Woman and Home, fu'n sôn ar raglen y Post Prynhawn am y Lipstick Index, neu'r Mynegai Minlliw.
Patrwm sy'n bodoli ers yr Ail Ryfel Byd
"Y syniad yw, hyd yn oed pan mae amseroedd yn anodd, a mae arian yn brin, fel mae 'na ddirwasgiad yn dechrau - fel ar ôl y rhyfel odd hyna di digwydd o'r blaen hefyd - mae gwerthiant lipsticks dal yn gryf, neu hyd yn oed yn cynyddu achos mae pobl yn chwilio am bethe bach i neud gwahanieth yn bywyd nhw, pryd mae pethe bach yn tough.
Gafodd y term ei greu gan Leonard Lauder, sef mab Estée Lauder, y ddynes fusnes lewyrchus a sefydlodd fusnesau colur yn yr ugeinfed ganrif. Leonard a fathodd y term yn ystod dirwasgiad 2001.
Eglura Rhiannon: "Nath e sylwi odd y recession yn ddrwg ond roedd niferoedd lipstick yn gwerthu yn uchel. Odd pobl yn chwilio amdan ffyrdd i gadw spirits nhw lan."
Ac er nad yw pawb yn gwisgo minlliw - a bod rhai yn dweud fod y ffigyrau yn cyffredinoli - mae'n rhoi argraff o'r economi meddai.
"Mewn rhai ffyrdd da chi yn medru gweld sut mae lipsticks yn gwerthu cyn i chi weld fod y dirwasgiad yn digwydd. Chi'n gweld fod gwerthiant lipsticks yn cynyddu a chi'n medru predictio be sy'n mynd i ddigwydd yn yr economi. Ond chi yn iawn, nid pawb sydd yn gwisgo lipstick ond mae ystadegau yn dangos fod 78% o ferched yn gwisgo lipstick i neud nhw deimlo'n fwy hyderus, so, mae pethau felna yn gneud mwy o wahanieth day-to-day dwi meddwl."
Effaith costau byw ar y diwydiant harddwch
Wrth i gostau byw, a phrisiau nwyddau pob dydd, gynyddu mi fydd yna effaith ar y diwydiant harddwch.
"Mae 'na lot o ystadegau yn dangos fod o rili mynd i ffeithio y diwydiant harddwch ymhob aspect, i fod yn onest. Ma 25% o bobl yn deud bo nhw am leihau routines nhw. Maen nhw mynd i stopio prynu bach o bethau. Maen nhw'n stopio mynd i'r salon, ella gneud mwy o treatments adre. Falle deio gwallt ei hunain. Felly, mae na lot o bethau mynd i newid yn y byd harddwch o'r gaeaf ymlaen dwi'n meddwl."
Dewisiadau fwy synhwyrol fydd y ffordd ymlaen ychwanegodd.
"Bo nhw ddim yn prynu pethau jyst i drio i weld os ydyn nhw rili hoffi e. Bo' nw yn dewis pethau mae nhw'n gwybod sydd yn mynd i weithio. I fod yn onest, yn profiad fi, y mwy syml ydi routine harddwch, a croen, fi, y gorau fi'n edrych. Weithiau os ti'n defnyddio gormod o products ma fel yn edrych yn waeth. Cadw petha'n rili syml ydi'r peth gora allwch chi neud yn bob aspect o harddwch yn fy marn i."
Hefyd o ddiddordeb: