Morgannwg yn colli allan ar ddyrchafiad i'r Adran Gyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi colli allan ar ddyrchafiad o Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ar ddiwrnod ola'r tymor gyda gêm gyfartal yn Sussex.
Cafodd y Cymry ddechrau gwych i'r gêm gan gyrraedd cyfanswm o 533-9 cyn dod â'u batiad cyntaf i ben, gyda Shubman Gill (119) a Chris Cooke (141) yn serennu gyda'r bat.
Fe lwyddon nhw i gyfyngu Sussex i 258 yn eu batiad cyntaf, gan olygu mai'r tîm cartref fyddai'n batio gyntaf yn yr ail fatiad.
Ond diolch i berfformiadau gwych gan Ali Orr (198) a Tom Haines (177) fe lwyddodd Sussex i gyrraedd cyfanswm o 554-8 yn eu hail fatiad cyn i'r chwarae ddod i ben ar y diwrnod olaf, a bu'n rhaid i'r ddau dîm setlo am gêm gyfartal.
Hyd yn oed pe bai'r Cymry wedi llwyddo i ennill, ni fyddai wedi bod yn ddigon wedi i Middlesex sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Sir Gaerwrangon, gan olygu mai nhw gipiodd yr ail safle yn y tabl a dyrchafiad i'r Adran Gyntaf.
Sir Nottingham orffennodd ar frig y tabl gyda 241 pwynt, gyda Middlesex yn ail ar 225, a Morgannwg yn drydydd ar 216.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022