Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Blackburn
- Cyhoeddwyd

Mark Harris yn dathu wedi iddo sgorio unig gôl y gêm
Roedd taran o ergyd gan Mark Harris yn ddigon i sicrhau triphwynt gwerthfawr er gwaethaf diweddglo dramatig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond roedd golwr yr Adar Gleision, Ryan Allsop, yn lawn gymaint o arwr wedi iddo arbed cic o'r smotyn yn ystod eiliadau ola'r gem.
Mewn gem a'i reolwyd gan y tim cartref, sicrhaodd fuddugoliaeth cyntaf Mark Hudson wrth y llyw - er bydd yn teimlo y gallai bwlch y fuddugoliaeth wedi bod yn fwy.
Wrth i'r gêm ddod i ddiweddglo, ond taran o ergyd wedi 83 munud gan ymosodwr Cymru oedd yn gwahaniaethu'r timau.

Llwyddodd Ryan Allsop i arbed cic o'r smotyn yn ystod eiliadau ola'r gêm
Ond tra roedd Blackburn yn credu ei bod wedi cael achubiaeth wedi i Allsop dynnu Dominic Hyam i lawr yn y cwrt cosbi, llwyddodd y golwr i arbed cic George Hirst er mawr foddhad mwyafrif y dorf.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd wedi codi i'r 13eg safle yn y Bencampwriaeth.