Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Burnley
- Cyhoeddwyd
![Callum Robinson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/BDEE/production/_126922684_cdf_011022_cardiff_v_burnley_04.jpg)
Gêm gyfartal oedd hi rhwng yr Adar Gleision a Burnley yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.
Roedd hi'n hanner cyntaf ddigon tawel ond bu fflachiadau o gyffro yn yr ail hanner.
Fe ddaeth gôl i chwaraewr Burnley, Nathan Tella, wedi 48 o funudau a'r Adar Gleision yn chwilio am gyfleoedd.
Peniad Callum Robinson wnaeth sicrhau'r gêm gyfartal funudau cyn diwedd y gêm.
Y gôl honno wnaeth gloi gêm gyntaf Caerdydd dan arweiniad eu rheolwr newydd, Mark Hudson.
Y sgôr terfynol yn 1-1.