Y Bencampwriaeth: West Bromwich Albion 2-3 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n gêm o goliau oddi cartref yn erbyn West Bromwich Albion i'r Elyrch ddydd Sadwrn.
Abertawe oedd yn arwain yn yr hanner cyntaf gyda'r unig gôl yn dod gan Matthew Sorinola funudau wedi'r chwiban gyntaf.
Ond fe darodd West Brom yn ôl yn yr ail hanner gyda dwy gôl - y naill i Jake Livermore a'r llall i Grady Diangana.
Daeth gôl arall i Abertawe gan Olivier Ntcham i ddod a'r sgôr yn gyfartal 2-2 wedi 70 munud.
A gyda munudau tan y chwiban olaf, fe lwyddodd yr Elyrch i gyrraedd cefn y rhwyd unwaith yn rhagor gyda gôl gan Michael Obafemi.
Y sgôr terfynol yn 2-3.