Milwr, 18, o Ben-y-bont wedi marw yn Llundain

  • Cyhoeddwyd
Jack Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jack Burnell-Williams ei ddarganfod yn anymwybodol ar safle Barics Hyde Park yn Llundain

Fe drefnodd teulu a ffrindiau milwr 18 oed o Ben-y-bont fu farw ar safle milwrol yn Llundain gwrdd er cof amdano brynhawn Sadwrn.

Bu farw Jack Burnell-Williams ddydd Mercher ar ôl dod o hyd iddo yn anymwybodol ar safle Barics Hyde Park toc cyn 16:00.

Yn ôl adroddiadau, roedd yn rhan o drefniadau angladd y Frenhines Elizabeth II.

Dywedodd llefarydd ar ran y Fyddin bod "eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r milwr yn ystod y cyfnod anodd hwn ac ry'n ni'n gofyn fod eu preifatrwydd yn cael ei barchu."

Roedd disgwyl i deulu a ffrindiau Jack gwrdd yng Nghlwb Pêl-droed Bryntirion ym Mhen-y-bont brynhawn Sadwrn.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus ac mae'r achos wedi cael ei gyfeirio at y crwner, yn ôl Heddlu'r Met.

Pynciau cysylltiedig