Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 19-20 Sharks

  • Cyhoeddwyd
Jack Dixon of Dragons is tackled by Rohan Janse van Rensburg of SharksFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli o drwch blewyn oedd hanes y Dreigiau ar Rodney Parade nos Sadwrn.

Roedd hi'n hanner cyntaf corfforol a digon o obaith gan y Dreigiau wrth iddyn nhw arwain o 12-6 oherwydd pedair cic gosb Will Reed.

Daeth cais cyntaf y gêm i'r tîm cartref, Elliot Dee, yn dilyn sgarmes symudol.

Ond gyda Grant Williams yn cipio pas Angus O'Brien i groesi'r llinell gais i'r Sharks, fe ddechreuodd y gwrthwynebwyr daro'n ôl.

Yn fuan wedyn daeth cais arall gan Thaakir Abrahams ac roedd hi felly'n ddiweddglo siomedig i'r Dreigiau.

Er gwaethaf y golled, roedd hi'n berfformiad calonogol a'r hyfforddwr Dai Flanagan yn canmol "ymdrech anhygoel" ei dîm.

Pynciau cysylltiedig