Cadw'r gyfradd dreth 45c yng Nghymru 'i godi £45m'
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai cadw'r gyfradd 45c ar gyfer treth incwm yng Nghymru yn codi £45m.
Dywedodd Rebecca Evans y byddai Llywodraeth Cymru yn cadw'r gyfradd uwch ar gyfer y rheiny sy'n ennill dros £150,000 os oes modd iddyn nhw wneud.
Ond daeth cyhoeddiad annisgwyl yn gynnar bore Llun gan Ganghellor y DU, Kwasi Kwarteng bod yna dro pedol ynghylch diddymu'r gyfradd uwch yn ei gyllideb fechan 10 diwrnod yn ôl.
Mewn datganiad ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Mr Kwarteng bod Llywodraeth y DU "yn deall [y pryderon ynghylch y polisi] ac rydym wedi gwrando".
Dywedodd fod y cyhoeddiad gwreiddiol wedi "tynnu sylw o ein perwyl pennaf i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein gwlad".
Doedd hi ddim yn glir a fydd newid hwnnw wedi bod yn weithredol yng Nghymru, ble mae Ms Evans yn dweud y byddai 9,000 o bobl yn elwa.
'Angen edrych ymhellach'
Ers 2019 mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau dros dreth incwm, sy'n golygu bod gweinidogion yn gallu amrywio'r dreth o 10c mewn bob £1 ar gyfer pob band.
Ond does gan weinidogion Cymru ddim pwerau dros y lefelau incwm y mae pobl yn talu gwahanol gyfraddau treth.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd felly a fydd penderfyniad y canghellor i gael gwared â'r gyfradd 45p uchaf hefyd yn digwydd yng Nghymru.
"Rydyn ni'n ceisio dod i waelod hyn achos ein dealltwriaeth ni yw, nawr bod e wedi cael ei ddileu yr ochr arall i'r ffin, bod hynny hefyd yn digwydd yn naturiol yma yng Nghymru," meddai Rebecca Evans wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales.
"Ond mae rhan o hynny'n dibynnu ar sut mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno hynny, yn nhermau beth yn union sydd yn y ddeddfwriaeth.
"Felly byddwn ni'n edrych ar hyn ymhellach ac yn trafod cynlluniau Llywodraeth y DU gyda nhw."
Cadarnhaodd Ms Evans y byddai Llywodraeth Cymru'n cadw'r gyfradd 45c yng Nghymru os oedd hynny o fewn eu gallu.
"Mae'n effeithio ar tua 9,000 o bobl sy'n elwa o tua £45m o ganlyniad [i'r toriad]," meddai.
"Dychmygwch beth allen ni wneud gyda £45m, ei dargedu tuag at ble sydd ei angen."
Mae Plaid Cymru wedi annog y gweinidog i beidio â dilyn gweinidogion y DU wrth dorri'r gyfradd dreth sylfaenol o 20c i 19c o fis Ebrill nesaf.
Ond dywedodd Rebecca Evans fod angen rhagolygon annibynnol ar yr effaith ariannol cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar lefel isaf y dreth incwm.
"Mae'n gwestiwn mawr ac yn un difrifol, felly dydyn ni ddim am gael ein gwthio i mewn i benderfyniad cynnar ar hynny," meddai.
'Cyfyngiadau' ar Lywodraeth Cymru
Gwrthododd Ms Evans ddweud fodd bynnag a fydd Llywodraeth Cymru'n darparu rhagor o arian er mwyn codi cyflogau yn y sector gyhoeddus.
Dywedodd y dylai Llywodraeth y DU "ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus".
Ond doedd hi ddim am gadarnhau a fyddai Llywodraeth Cymru'n rhyddhau arian ychwanegol pe nai bai mwy yn dod gan y Trysorlys yn Llundain.
Mae nyrsys, staff iechyd eraill ac athrawon yng Nghymru i gyd yn bygwth mynd ar streic wedi i'w cyflogau nhw godi yn llai na lefel chwyddiant.
Ddydd Iau fe fydd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn agor pleidlais ymhlith eu haelodau ynglŷn â gweithredu diwydiannol.
Mae disgwyl i undeb Unite hefyd ofyn i staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a ydyn nhw am fynd ar streic, tra bod undeb athrawon NASUWT yn bygwth streic i'w haelodau hwythau oni bai eu bod nhw'n cael codiad cyflog o 12%.
Er eu bod nhw wedi cynnig codiadau cyflog sy'n is na lefel chwyddiant, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y dylai gweithwyr sector gyhoeddus dderbyn codiad "sydd o leiaf yr un lefel â chwyddiant", a'i fod yn "deall dicter pobl ar y llinell flaen".
Dywedodd Ms Evans: "Ochr yn ochr â fy ngweinidogion cyfatebol yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydyn ni wedi gwneud cais i drafod nifer o faterion gyda'r Canghellor newydd [Kwasi Kwarteng].
"Mae hyn yn cynnwys cyflogau sector gyhoeddus, a chydnabod fod pobl yn y sector gyhoeddus wedi gweithio'n hynod o galed yn ystod y pandemig."
Ond ychwanegodd bod "cyfyngiadau" o ran beth allai Llywodraeth Cymru gynnig, os nad oedd Llywodraeth y DU yn darparu mwy o arian tuag at gyflogau.
"Mae 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru'n ymwneud â chyflogau mewn un ffordd neu'r llall, felly byddai cynnydd o 1% mewn cyflogau sector gyhoeddus yn golygu gorfod dod o hyd i £100m arall - rydyn ni'n sôn am symiau mawr o arian.
"Dwi ddim eisiau siarad am drafodaethau tâl unigol, mae rhain i'r rheiny'n parhau, mae rhai yn ystyried pleidlais ymhlith aelodau ac yn y blaen, felly mae'n gyfnod sensitif yn y trafodaethau.
"Ond y pwynt cyffredinol yw bod wir angen i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gan fod ein cyllideb ni nawr werth £4bn yn llai [oherwydd chwyddiant] nag oedd e ar ddechrau'r cyfnod gwariant tair blynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022