Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi'r gyllideb fechan
- Cyhoeddwyd
Mi fyddai'n gywir i lywodraeth y DU edrych ar doriadau posib mewn gwariant cyhoeddus, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Ond dywedodd Syr Robert Buckland nad yw'r llywodraeth "yn ymddiheuro" am "sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithlon".
Mewn cyfweliad gyda Laura Kunessberg fore Sul, fe wrthododd y prif weinidog ddweud a yw'n cynllunio i dorri gwariant cyhoeddus.
Fe gyfaddefodd Liz Truss y dylai fod wedi "paratoi'n well" ar gyfer cyhoeddiad ei chyllideb fechan ar ôl iddo arwain at ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd arian.
Ond, mae Ms Truss wedi gwrthod galwadau i wneud tro pedol ar dorri trethi a dywedodd y bydd ffigurau rhagolygon economaidd y DU a chynlluniau i leihau dyled cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi gan y llywodraeth ar 23 Tachwedd.
Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales ar ddechrau cyhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham, fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru ddatgan ei gefnogaeth i'r gyllideb fechan.
Ychwanegodd fod llywodraeth y DU yn "gwbl gywir i gynyddu ymdrechion yn ei chynllun ar gyfer twf".
Dywedodd Mr Buckland AS y byddai'r llywodraeth yn cadw at ei chynlluniau gwariant tair blynedd ond ei bod yn "gywir i edrych ar bosibilrwydd gwneud mwy o benderfyniadau effeithlon" ynghylch gwariant cyhoeddus.
Mae chwyddiant uchel hefyd yn effeithio ar y cynlluniau gwariant, gyda llywodraeth Cymru yn rhagfynegi y bydd ei chyllideb dros y dair blynedd nesaf £4bn yn llai na'r cyhoeddiad gwreiddiol oherwydd costau uchel.
"Dw i'n derbyn bod chwyddiant yn cael effaith, a dyna pam dw i'n credu ei bod yn hanfodol i bob adran gwariant gael golwg drylwyr iawn ar eu blaenoriaethau i wneud yn siŵr ein bod yn blaenoriaethu'r rheng flaen, yn blaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac yn gwneud yn siŵr bod arian y cyhoedd... yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithlon posib," ychwanegodd Robert Buckland.
Dywedodd y cyn-weinidog Michael Gove fod y toriad i'r gyfradd uchaf o dreth incwm i bobl sy'n ennill dros £150,000 yn dangos y "gwerthoedd anghywir", ac fe awgrymodd na fyddai'n pleidleisio dros hynny.
Ond datgan ei gefnogaeth i'r toriad o 45c wnaeth Syr Robert Buckland gan fod y llywodraeth yn codi treth gorfforaeth ar y banciau ac wedi cyflwyno treth un tro ar y diwydiannau olew a nwy.
Mae tua un o bob pump cartref yng Nghymru yn defnyddio olew neu nwy hylifol i gynhesu eu tai.
Fyddan nhw ddim yn elwa o'r gostyngiad dwy flynedd yng nghost uned o olew a thrydan, a ddaeth i rym ddydd Sadwrn.
Yn hytrach, maen nhw wedi cael cynnig taliad o £100 ar ben y taliad o £400 y bydd pob cartref yn y DU yn ei dderbyn.
Bythefnos yn ôl, dywedodd yr AS Ceidwadol dros Frycheiniog a Maesyfed na fyddai'r taliad o £100 yn "gwneud fawr o wahaniaeth" i gartrefi.
Dywedodd Mr Buckland y byddai'r llywodraeth yn "parhau i adolygu'r mater".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022