CPD Wrecsam yn condemnio 'hwliganiaeth' cyn gêm

  • Cyhoeddwyd
Boundary Park
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ymddangos i'r trafferthon ddigwydd cyn gêm Wrecsam oddi cartref yn Boundary Park

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi condemnio digwyddiadau o "hwliganiaeth" cyn y gêm yn erbyn Oldham Athletic ddydd Sadwrn.

Mae plismyn ym Manceinion wedi cadarnhau bod 11 dyn rhwng 18 a 30 eisoes wedi eu harestio a bod mwy yn debygol o orfod wynebu achos llys wrth i'w hymchwiliad barhau.

Dywedodd Fleur Robinson, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, bod y clwb yn llwyr gefnogi Heddlu Manceinion ac y byddan nhw'n cydweithio â'r awdurdodau yn ôl yr angen.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae pum dyn wedi cael gorchmynion gwahardd wedi digwyddiadau yn ystod gemau pêl-droed Wrecsam.

Ychwanegodd Ms Robinson y byddai unrhyw un sy'n euog o'r fath ymddygiad annerbyniol yn wynebu'r canlyniadau llymaf posib.

Ddydd Sadwrn roedd 2,520 o gefnogwyr Wrecsam yn Boundary Park - y dorf fwyaf yno ers gêm Oldham yn erbyn Lerpwl yn 2013.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

'Does dim lle i unrhyw un sy'n niwedio ein henw da,' medd Fleur Robinson

Dywedodd Ms Robinson bod y clwb am ddiolch i'r rhan fwyaf o gefnogwyr a oedd yn bresennol yn y gêm am eu cefnogaeth ac am greu awyrgylch wych.

Ond ychwanegodd bod y clwb yn ymwybodol o'r trais a'r ymddygiad gwrth-gymdeithasol a ddigwyddodd yn Failsworth - bedair milltir o'r cae.

"Ry'n yn condemnio'n gryf y fath hwliganiaeth. Dyw'r unigolion sydd ynghlwm â'r hyn ddigwyddodd ddim yn cynrychioli ein cefnogwyr a does dim croeso iddyn nhw yn ein Clwb Pêl-droed," meddai.

"Roedd cefnogaeth ein gwir gefnogwyr yn Boundary Park yn adlewyrchu ymddygiad gorau ein ffans ac fe wnaeth eu hymddygiad sicrhau buddugoliaeth hwyr - gyda staff a chwaraewyr yn nodi effaith y fath gefnogaeth.

"Does dim lle i unrhyw un sy'n niweidio ein henw da yn y Clwb Pêl-droed ac fe fyddwn yn cydweithio â'r heddlu i sicrhau bod eu hymddygiad annerbyniol yn wynebu'r canlyniadau llymaf posib."

Mae unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.