Chwaraewyr Rygbi Caerdydd 'wedi bygwth staff' mewn tafarn

  • Cyhoeddwyd
THe Grange

Mae Rygbi Caerdydd yn cynnal ymchwiliad yn dilyn honiadau bod rhai o'u chwaraewyr wedi taflu wyau a bygwth staff mewn tafarn yn y ddinas.

Mae'r rhanbarth wedi cyfarfod gyda thafarn The Grange yn ardal Grangetown ddydd Llun er mwyn dod o hyd i'r "ffeithiau llawn" am ymddygiad y chwaraewyr nos Sadwrn.

"Nid yw Rygbi Caerdydd yn goddef yr ymddygiad honedig, a bydd y camau priodol yn cael eu cymryd os caiff yr honiadau eu cadarnhau," meddai'r clwb mewn datganiad - gan ddweud na fyddai sylw pellach am y tro.

Roedd y clwb wedi bod yn chwarae yn erbyn y Lions o Dde Affrica nos Wener, gan golli o 31-18.

Mae BBC Cymru yn deall fod yr honiadau yn erbyn o leiaf dau o chwaraewyr - sydd heb gael eu henwi - yn cynnwys eu bod wedi bod yn ymosodol a bygythiol tuag at staff y dafarn.

Mae honiadau hefyd eu bod wedi dod ag wyau gyda nhw i'r dafarn a'u taflu ar fyrddau a'r llawr.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Rygbi Caerdydd a ydyn nhw wedi cymryd unrhyw gamau yn erbyn y chwaraewyr dan sylw, wrth i'w ymchwiliad fynd rhagddo.

'Disgwyl gweithredu'

Dywedodd rheolwr The Grange, Dai Dearden ei fod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Rygbi Caerdydd am dros awr fore Llun a bod y dafarn yn "helpu nhw gyda'u hymchwiliad".

"Ry'n ni'n disgwyl y bydd rhyw weithredu yn erbyn rhai aelodau'r garfan," meddai.

"Mae staff tu ôl i'r bar yn cael bywyd caled ac rydyn ni eisiau sicrhau fod pobl yn deall hynny ac yn bod yn barchus - dim ots pwy ydyn nhw."

Ychwanegodd nad oedd yr ymddygiad - ddigwyddodd rhwng 19:00 a 20:00 nos Sadwrn - "wedi targedu unrhyw gwsmer yn uniongyrchol".

"Bydd y clwb yn cadw mewn cysylltiad gyda ni a'n gadael i ni wybod beth sy'n digwydd pob cam o'r ffordd," meddai.

Galw am 'wneud safiad'

Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Llun, dywedodd Dan Pearce o flog Cardiff Rugby Life fod angen gweithredu yn gadarn os ydy'r honiadau yn cael eu profi.

"Maen nhw wir angen gwneud datganiad clir yma," meddai.

"Dim ots os yw'n chwaraewr wrth gefn neu'n chwaraewr rhyngwladol Cymru, maen nhw angen gwneud safiad a dangos nad ydy Rygbi Caerdydd yn derbyn ymddygiad o'r fath."

Pynciau cysylltiedig