Heddlu'n ymchwilio i honiad o roi alcohol i blentyn bach

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i fideo ble mae'n ymddangos fod oedolyn yn rhoi alcohol i blentyn bach.

Mae'r fideo, sydd wedi cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol, yn dangos dynes yn arllwys hylif o botel glir i mewn i'r caead, ac yna'n rhoi'r hylif yng ngheg y babi.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cydweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol a'u bod wedi sicrhau fod y plentyn yn ddiogel.

"Rydyn ni'n parhau i ymchwilio i'r mater a does dim pryderon pellach am y plentyn," meddai'r llu mewn datganiad.

"Rydym eisiau diolch i aelodau'r cyhoedd am adrodd eu pryderon i ni a diolch am eich cefnogaeth yn yr ymchwiliad."

Pynciau cysylltiedig