Oedi cyflwyno mesurau newydd ar lygredd fferm
- Cyhoeddwyd
Bydd oedi o dri mis cyn cyflwyno rheolau dadleuol i geisio lleihau llygredd amaethyddol mewn afonydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.
Yn hytrach, bydd gweinidogion yn ymgynghori ar gynllun trwyddedu sy'n rhoi lwfansau mwy hael i ffermwyr sy'n taenu slyri a gwrtaith ar dir.
Maen nhw hefyd wedi addo darparu £20m ychwanegol i helpu ffermwyr i gydymffurfio â'r rheoliadau llygredd newydd.
Roedd undebau ffermio a gwrthbleidiau'r Senedd wedi datgan gwrthwynebiad i gyflwyno Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan (NVZs).
Bydd cyflwyniad yr uchafswm blynyddol ar nitrogen yn y tir o 170kg yr hectar, oedd fod i gael ei gyflwyno o Ionawr 2023, bellach yn cael ei ohirio tan fis Ebrill.
Yn ôl ffynhonnell Plaid Cymru, roedd eu plaid wedi gwthio gweinidogion Llafur i weithredu.
"Os na fydden ni'n rhan o'r cytundeb cydweithredu [yn y Senedd] gyda'r llywodraeth, ni fyddai hyn wedi digwydd," dywedon nhw.
Gynt roedd ychydig dros 2% o dirwedd Cymru wedi'i ddynodi'n Barthau Perygl Nitradau, neu Nitrate Vulnerable Zones, gyda'r drefn newydd i gynnwys Cymru gyfan.
Ond mewn datganiad ar y newidiadau arfaethedig dywedodd y gweinidog amaeth, Lesley Griffiths, fod her yn y llysoeddd wedi achosi i rai ffermwyr oedi wrth baratoi ar gyfer y rheoliadau.
"Mae'r paratoadau hyn hefyd dan bwysau oherwydd y pwysau costau cynyddol yr ydym i gyd yn ei brofi, ochr yn ochr â chefndir ehangach goblygiadau byd-eang y rhyfel yn Wcráin," ychwanegodd.
Bydd hefyd yn ymgynghori ar gynllun trwyddedu i ymestyn yr uchafswm ar nitrogen yn y tir i 250kg yr hectar, a allai fod mewn grym nes 2025.
'Andwyol dros ben i Gymru wledig'
Dywedodd yr AS Ceidwadol, Sam Kurtz, ei fod yn croesawu'r penderfyniad i wneud y rheoliadau yn "fwy cymesur".
Ond ychwanegodd: "Does dim byd wedi'i warantu gan yr ymgynghoriad hwn, a phe bai Llywodraeth Cymru yn methu â chymryd sylw o bryderon hirsefydlog y diwydiant ynglŷn â'r uchafswm yn flaenorol, yna gallai hyn fod yn ddim mwy nag ymgais enbyd gan Blaid Cymru a Llafur i achub eu henw da gyda'r diwydiant amaethyddol.
"Ond, mae'n rhaid i ni drin hwn fel cyfle newydd i geisio sicrhau cydraddoldeb i ffermwyr Cymru â'n cymdogion yn y DU.
"Mae'r £20m ychwanegol i'w groesawu a bydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd i helpu'r diwydiant i fodloni agweddau ehangach y rheoliadau hyn."
Yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y datblygiad yn "newyddion da" ond fod lle i edrych ar y rheoliadau ymhellach a chyflwyno technoleg newydd.
"Byddai wedi golygu bod rhaid lleihau nifer yr anifeiliaid ar gannoedd a channoedd o ffermydd, yn enwedig yn y sector laeth," meddai.
"Ar gyfer y fferm deuluol Gymreig, sef rhai bychain a chanolig eu maint, bysai hwnna wedi golygu bod llawer ddim yn hyfyw bellach, mae lefel y margin mor isel o fewn y sector. Byddai'r goblygiadau i Gymru wledig yn andwyol dros ben.
"Roedden ni isie defnyddio pob dylanwad i ddyfodol y fferm deuluol yng Nghymru, nid yn unig oherwydd ei arwyddocad economaidd ond pwysigrwydd cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol amaethu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019