Owain Wyn Evans i gyflwyno rhaglen ddyddiol Radio 2

  • Cyhoeddwyd
Owain Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Owain Wyn Evans nad yw'n gallu aros i ddechrau cyflwyno'r rhaglen newydd yn y flwyddyn newydd

Bydd Owain Wyn Evans yn cyflwyno rhaglen fyw ddyddiol ar orsaf BBC Radio 2 yn y flwyddyn newydd, gan ei darlledu o Gaerdydd.

Y cyflwynydd tywydd o Rydaman sy'n adnabyddus am ei ddrymio fydd cyflwynydd yr Early Breakfast Show, rhwng 04:00 a 06:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Fe fydd yn cymryd yr awenau ym mis Ionawr, a dyma fydd rhaglen ddyddiol gyntaf yr orsaf i symud o Lundain fel rhan o gynlluniau'r BBC i "adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu pob rhan o'r wlad".

"Pan holais fy rhieni am bar o fyrddau troelli a desg gymysgu o siop DJ yn Llanelli pan o'n i'n 13, nes i byth ganiatáu i mi'n hun freuddwydio y byswn i'n cael fy rhaglen fy hun ar Radio 2!" meddai Owain.

"Alla i ddim aros i ddechrau'r diwrnod ar yr Early Breakfast yn fyw o Gaerdydd. Bore da dahlings fel ry'n ni'n ei gweud yng Nghymru!"

'Deffro gwrandawyr ar draws y DU o Gaerdydd'

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards: "Rwy' wrth fy modd y bydd gwrandawyr Radio 2 yn dechrau eu diwrnodau yng nghwmni Owain - yn fyw bob dydd Llun i Gwener o gartref BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog.

"Gan ei fod wedi dechrau ei yrfa cyflwyno yma yng Nghymru, mae'n wych y bydd o'n deffro gwrandawyr ar draws y DU o Gaerdydd. Croeso Owain!"

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu Owain Wyn Evans yn drymio am dros 24 awr i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen

Dechreuodd ei yrfa darlledu yn 18 oed fel cyflwynydd newyddion i blant yn BBC Cymru, cyn symud ymlaen i fod yn gyflwynydd tywydd ar draws y DU.

Mae wedi bod yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru, a gorsafoedd lleol eraill y BBC, gan gynnwys Radio York, Radio Leeds a Radio Manchester.

Yn ddrymiwr brwd ers yn saith oed, fe ddaeth i amlygrwydd ar draws y byd yn ystod cyfnod clo 2020 ar ôl cynhyrchu fideos ohono'i hun yn drymio i gerddoriaeth BBC News, sydd wedi eu gwylio degau o filiynau o weithiau.

Y llynedd fe gododd dros £3.8m ar ran Plant Mewn Angen trwy ddrymio am 24 awr, gan dorri record byd. Dyma oedd her 24 awr fwyaf llwyddiannus yr elusen mewn 41 o flynyddoedd.

Roedd y rhaglen frecwast gynnar yn cael ei chyflwyno tan fis Gorffennaf gan Vanessa Feltz.

BBC Radio 2 yw'r orsaf gyda'r mwyaf o wrandawyr yn y DU.

Mae cyflwynwyr eraill y rhwydwaith yn cynnwys Zoe Ball, Jeremy Vine, Sara Cox a Dermot O'Leary yn ogystal â'r Cymry Cerys Matthews a Jason Mohammad.

Wrth "groesawu Owain i deulu Radio 2", dywedodd pennaeth yr orsaf, Helen Thomas bod "ei gynhesrwydd a'i hiwmor yn ei wneud yn gyflwynydd perffaith i gychwyn boreau ein gwrandawyr ar draws y wlad sy'n amlwg wedi ei groesawu'n gynnes pob tro mae o wedi cyflwyno'r slot".

Pynciau cysylltiedig