Y Bencampwriaeth: Watford 1-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ryan Manning (canol) yn erbyn WatfordFfynhonnell y llun, Getty Images

Enillodd Abertawe oddi cartref o ddwy gôl i un yn erbyn Watford yn Vicarage Road nos Ferched a chodi i chwe safle uchaf tabl y Bencampwriaeth.

Prin oedd y cyfleoedd gan y naill dîm na'r llall yn yr hanner cyntaf, ond Watford oedd ar y blaen ar yr egwyl wedi i Ismaila Sarr (34) rwydo.

Roedd yr Elyrch yn meddwl eu bod wedi unioni'r sgôr, wedi 42 o funudau, pan ollyngodd golwr Watford, Daniel Bachmann ergydiad Matt Grimes.

Tarodd Michael Obafemi y bêl i'r rhwyd, ond chafodd y gôl mo'i chaniatáu oherwydd achos o gamsefyll.

Ond doedd dim amheuaeth o gwbl pan aeth ergyd droed dde Olivier Ntcham i'r rhwyd wedi 52 o funudau i ddod â'r sgôr yn gyfartal.

Oherwydd problemau technegol oedd yn amharu ar gysylltiadau'r dyfarnwr a'i gyd-swyddogion bu'n rhaid dod â'r gêm i ben am gyfnod, cyn ailddechrau gydag o leiaf 17 munud o amser ychwanegol.

Ac yn ystod y cyfnod hwnnw y peniodd Ben Cabango (90+8) i roi Abertawe ar y blaen.

Wedi 120 munud o chwarae felly, yr ymwelwyr wnaeth gipio'r triphwynt a chodi o'r 12fed i'r chweched safle yn y tabl.