Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Sunderland
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth yn olynol yn y Bencampwriaeth gau drechu Sunderland 2-1 yn Stadiwm Swansea.com.
Fe sgoriodd Ollie Cooper ei gôl gyntaf o'r tymor i roi'r Elyrch ar y blaen wedi 13 o funudau.
Fe ddyblodd yr amddiffynnwr Harry Darling y fantais pan darodd y bêl dros y llinell yn ystod amser ychwanegol yr hanner cyntaf.
Llwyddodd Sunderland i gau'r bwlch chwe munud i mewn i'r ail hanner pan rwydodd Jack Clarke.
Ond er taw'r ymwelwyr oedd y tîm gorau yn yr ail hanner fe lwyddodd Abertawe i amddiffyn eu mantais.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe'n dal gafael ar chweched safle'r tabl gyda 21 o bwyntiau.