Y Bencampwriaeth: Wigan Athletic 1-3 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
![Callum Robinson (canol) yn dathlu sgorio gôl gyntaf Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11E4B/production/_127019237_cdf_081022_wigan_v_cardiff_24.jpg)
Callum Robinson (canol) yn dathlu sgorio gôl gyntaf Caerdydd
Mae rhediad diguro Caerdydd dan yr hyfforddwr dros dro Mark Hudson yn parhau yn dilyn y fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth, oddi cartref yn erbyn Wigan Athletic yn Stadiwm DW.
Callum Robinson sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf gydag ergyd droed dde o ganol y cwrt cosbi i roi'r Adar Gleision ar y blaen wedi saith munud o chwarae.
Fe rwydodd Sheyi Ojo wedi 65 o funudau ond fe darodd Wigan yn ôl pan beniodd Charlie Wyke y bêl i'r rhwyd gyda saith munud yn weddill ar y cloc.
Daeth trydydd gôl Caerdydd diolch i ergyd Ryan Wintle o gic rydd - ei gôl gyntaf i'r clwb - wedi munud o amser ychwanegol.
Golyga'r canlyniad bod Caerdydd yn codi o'r 15fed i'r 10fed safle gyda 18 o bwyntiau.