Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Ulster 47-17 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Luke MarshallFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Luke Marshall ddau o saith cais Ulster

Roedd Ulster yn rhy gryf o lawer i'r Gweilch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Sadwrn gan sgorio saith cais i'w trechu o o 47-17.

Fe diriodd Jac Morgan i'r Gweilch yn yr hanner cyntaf, a ddiweddodd gyda'r tîm cartref ar y blaen o 28 i 10.

Roedd yna gais hefyd gan Morgan Morris yn hwyr yn yr ail hanner, ond cais cysur yn unig oedd hwnnw gydag Ulster mor bell ar y blaen.

Ciciau Jack Walsh oedd yn gyfrifol am weddill bwyntiau'r Gweilch, sydd yn nawfed safle'r tab, un yn uwch na Rygbi Caerdydd.

Roedd yna funud o dawelwch cyn y gic gyntaf mewn ymateb i'r ffrwydrad ym mhentref Creeslough, yn Donegal ddydd Gwener a laddodd 10 o bobl.

Pynciau cysylltiedig