Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Benetton 34-16 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Rio Dyer yn neidio am y bêlFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Rio Dyer gais cyntaf y Dreigiau yn gynnar yn yr ail hanner

Colli oedd hanes y Dreigiau oddi cartref yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wrth i Benetton sicrhau buddugoliaeth haeddiannol a phwynt bonws.

Roedd Dai Flanagan wedi gwneud sawl newid i'r tîm a gafodd hanner cyntaf hunllefus yn Stadio Monigo - roedd y tîm cartref 17-0 ar y blaen wedi 22 o funudau, wedi i Giacomo Nicoreta a Lorenzo Cannone groesi'r llinell.

Dyna oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth i Benetton reoli'r gêm yn llwyr, ond roedd pethau'n edrych yn addawol am gyfnod wedi'r egwyl.

Fe diriodd Rio Dyer ac wedi trosiad JJ Hanrahan roedd hi'n 17-7.

Tarodd y tîm cartref yn ôl wrth i gais gan Edoardo Padovani a chiciau cywir Tomás Albornoz ymestyn y fantais i 27-7.

Sgoriodd Steff Hughes ei gais gyntaf i'r Dreigiau ac wedi trosiad llwyddiannus Sam Davies roedd y sgôr yn 27-14 gyda 13 munud yn weddill ar y cloc.

Ond fe diriodd Mattia Bellini rhwng y pyst a gyda'r trosiad roedd y fuddugoliaeth yn un gyfforddus i'r tîm cartref sy'n codi i'r pedwerydd safle.

Yn dilyn eu nawfed colled mewn 10 gêm oddi cartref mae'r Dreigiau'n parhau yn y 13eg safle.

Pynciau cysylltiedig