Robat Idris: Y Gymraeg i edwino heb gymunedau ffyniannus

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Robat Idris yw cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith

Mae'n bwysig ystyried y frwydr dros y Gymraeg mewn mwy nag "un seilo" yn unig, yn ôl cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd Robat Idris wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru fod angen mwy na hawliau iaith penodol i sicrhau ei dyfodol.

Mae'n hanfodol fod pobl hefyd yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gymunedau Cymraeg, meddai.

Cafodd y cadeirydd newydd ei ethol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas ddydd Sadwrn, ac mae'n olynu Mabli Siriol Jones.

Yn ôl Mr Idris mae'n bwysig fod pobl sy'n llunio polisïau yn ystyried effaith unrhyw bolisïau ar y Gymraeg - a bod hynny'n dod yn naturiol "yn yr un modd a thegwch i'r ddau ryw, tegwch i bobl o liw ac yn y blaen".

"Os nad ydi'r amgylchiadau cywir yn bodoli yna mae'r iaith yn mynd i edwino," meddai.

"Mae'n rhaid i'r polisïau mwy eang gymryd y Gymraeg i ystyriaeth."

Mae Mr Idris yn nodi mewnlifiad i ardaloedd gwledig a phobl ifanc yn gadael eu cymunedau fel un o'r prif heriau sy'n wynebu'r frwydr dros y Gymraeg.

"Dwi wedi byw yma yn Sir Fôn erioed, lle sy'n gadarnle i'r iaith a dwi wedi sylwi fel mae'r gymdeithas yn newid ac fel mae'r mewnlifiad yn cael effaith ar ein cymunedau.

"Mae'r Gymraeg angen ymgyrchu dros ei defnyddio yn ein cymunedau ni, dros ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r llall.

"De ni eisiau edrych ymlaen i'r dyfodol, de ni eisiau creu cymunedau ffyniannus fel bod ein pobl ifanc yn dewis aros yn ein cymunedau a gwneud hynny mewn tai gallan nhw fforddio, cael gwaith rhesymol sydd yn talu am eu costau nhw ac sy'n golygu bod dim rhaid i nhw symud allan.

"Fel arall beth sy'n digwydd ydi bod y cymdeithasau Cymraeg yn edwino, os de ni'n gallu gwyrdroi hynny da ni'n gallu camu ymlaen."