Comisiwn newydd i edrych ar 'argyfwng' cymunedau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Simon Brooks
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Simon Brooks bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg "yn edrych ar bolisi cyhoeddus ym mhob maes"

Mae comisiwn newydd wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i lunio argymhellion polisi i ddiogelu a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Dywed y cadeirydd Dr Simon Brooks y bydd yn ceisio "chwilio am atebion i'r argyfwng sydd yn wynebu ein cymunedau Cymraeg".

Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, meddai, yn edrych ar bolisi cyhoeddus ym mhob maes, gan gynnwys tai, twristiaeth, yr economi, amaeth, addysg.

Y bwriad wedyn fydd "ceisio dod o hyd i argymhellion i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei warchod fel iaith gymunedol at y dyfodol".

Ar ddechrau ei swydd mae'n pwysleisio bod "angen cael argymhellion oherwydd mae cymdeithas wedi newid".

Dywedodd: "Ry'n ni newydd gael argyfwng Covid. Ry'n ni 'di gweld twf aruthrol mewn prisiau tai haf ac mae pobl wedi newid eu ffordd o fyw. Ry'n ni angen ymateb i hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon am niferoedd cynyddol o ail gartrefi o fewn rhai cymunedau

Mae'n credu fod angen argymhellion ynglŷn â sut i symud 'mlaen, ond Llywodraeth Cymru fydd â'r gair olaf.

"Ry'n ni yn byw mewn gwlad ddemocrataidd," meddai.

"Y llywodraeth fydd yn penderfynu a yw'r argymhellion yn cael eu gweithredu ai peidio.

"Ond fel comisiwn fe fyddwn ni'n llunio adroddiad cynhwysfawr yn y flwyddyn neu ddwy nesaf i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut ry'n ni'n meddwl y gellid symud 'mlaen i gadw cymunedau Cymraeg a gwarchod yr iaith - sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol i siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau hynny."

'Newidiadau go iawn'

Ym mis Ebrill eleni fe wnaeth Dr Brooks ysgrifennu adroddiad i Lywodraeth Cymru am ail gartrefi, gan gynnwys deuddeg o argymhellion.

"Roeddwn i yn falch i ysgrifennu'r adroddiad, ac mae nifer o'r argymhellion yna wedi eu gweithredu," meddai.

"Ry'n ni fan hyn yn edrych ar yr un cymunedau, ond fe fyddwn ni yn edrych ymhob maes polisi... addysg, gwaith, tai, cyflogaeth.

"Mae hyn yn bwysig. Mewn gwirionedd ry'n ni wedi bod angen gwneud rhywbeth fel hyn yn enwedig yn sgil Covid.

"Dwi'n gobeithio y bydd yn arwain at newidiadau go iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Simon Brooks ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg newydd "yn dod ag arbenigwyr ynghyd i wneud argymhellion polisi, er mwyn diogelu a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol".

Wrth ddisgrifio ei obeithion dywedodd Dr Brooks y bydd ef a'r 10 o gomisiynwyr, sydd o wahanol feysydd ac arbenigeddau, yn "gwneud ein gorau glas i wneud yr argymhellion angenrheidiol i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol yn ein bröydd Cymraeg".

Yn ogystal â'r comisiwn newydd fe fydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles yn rhoi rhagflas yn y Brifwyl o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith a lle mae nifer uwch o ail gartrefi.

Mae disgwyl y bydd y cynlluniau yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref yn y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg terfynol, ac yn cynnwys annog perchnogion tai i roi cyfle teg i bobl leol wrth werthu eu heiddo.

Bydd hefyd yn cynnwys cynllun "cyfle teg" gwirfoddol a fydd yn helpu perchnogion i wneud penderfyniadau ynghylch sut i werthu eu cartrefi, ac yn caniatáu iddyn nhw farchnata eu heiddo yn lleol yn unig am gyfnod penodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru eisiau "amlygu i werthwyr bod ganddyn nhw opsiynau eraill"

Y bwriad hefyd yw bydd y cynllun yn cefnogi mentrau cydweithredol a chynlluniau tai cydweithredol, a chamau i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.

Dywedodd Mr Miles ar Dros Frecwast fore Iau fod y llywodraeth eisoes wedi dechrau mynd i'r afael ag ail gartrefi, ac nad oedi ymhellach ydy sefydlu'r comisiwn.

"Nid oedi o gwbl yw hyn. Mae'n rhaid sicrhau bod y datblygiadau sy'n digwydd yn y cymunedau Cymraeg yma yn caniatáu ni fel llywodraeth a chyrff eraill i ymateb i hynny ar sail realiti ac ar sail tystiolaeth," meddai.

"Beth y'n ni eisiau ei wneud fel rhan o'r cynllun yma yw amlygu i werthwyr bod ganddyn nhw opsiynau eraill."

Ychwanegodd ei fod yn rhagweld gweithredu gwahanol "o gymuned i gymuned", ac mai dyna pam fod cynllun peilot yn bwysig.

"Rwy'n sicr y byddwn ni'n clywed... pethau sy'n anghyfleus i ni, ond dim ond wrth glywed tystiolaeth a realiti yr heriau sy'n wynebu'r Gymraeg yn y cadarnleoedd - dim ond wrth gael hynny ac adeiladu ar rheiny yr awn ni â'r maen i'r wal."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mabli Siriol Jones mai "hanner mesurau" sydd wedi'u cyhoeddi hyd yma gan y llywodraeth

Tra'n croesawu bod gweithredu ar ail dai, dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones fod angen mynd ymhellach.

"Yr hyn ni 'di gweld hyd yn hyn am y cynlluniau sy'n cael eu cyhoeddi, hanner mesurau yw'r rhain a bod yn onest," meddai ar Dros Frecwast.

"Maen nhw'n sôn am gynlluniau gwirfoddol, a dyna'r gwahaniaeth fan hyn.

"Yr hyn ni'n dweud yw bod angen deddf eiddo fydd yn rheoleiddio'n gadarn y farchnad dai, ac yn sicrhau fod blaenoriaeth i bobl leol yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi - nid hanner cynllun gwirfoddol i asiantaethau tai."

Disgrifiad o’r llun,

Rali Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod tyn Nhregaron ddydd Iau

Roedd yna oddeutu 200 o bobl yn y rali 'Nid yw Cymru ar Werth' a drefnodd Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod mewn ymateb i'r "argyfwng" ail dai.

Un o'r rheiny fu'n annerch y dorf oedd Cai Phillips o Geredigion, a siaradodd am yr heriau i bobl ifanc sy'n ceisio prynu tŷ yn eu bro leol.

"Os bod perchnogion ail dai yn gadael oherwydd y trethiant uwch, gwynt teg ar eu hôl nhw," meddai.

Dywedodd Walis George, cyn-brif weithredwr Tai Eryri a Grŵp Cynefin, fod y camau diweddaraf i drethu ail dai ond am arafu'r twf, yn hytrach na'i wyrdroi.

"Ni fydd hyn yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y niferoedd, na chwaith mwy o dai i bobl leol," meddai.