AS Llafur wedi ei gwahardd 'yn dilyn honiadau bwlio'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Castell-nedd, Christina Rees wedi cael ei gwahardd o'r Blaid Lafur yn dilyn honiadau o fwlio yn ei herbyn.
Tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal mae hi'n colli chwip y blaid, ac felly bydd yn eistedd fel AS annibynnol yn San Steffan.
Yn ôl papur newydd The Guardian, daw'r ymchwiliad yn erbyn Ms Rees yn dilyn cwynion gan staff ei swyddfa etholaeth yn ne Cymru.
Dywedodd hi wrth y papur newydd ei bod yn cydweithio gyda'r ymchwiliad.
Mae'r Blaid Lafur wedi gwrthod gwneud sylw.
'Ddim yn gwybod y manylion'
Mewn datganiad i'r Guardian dywedodd Ms Rees: "Mae cwyn wedi ei wneud yn fy erbyn i'r blaid Lafur, ac mae ymchwiliad ar droed, felly rwyf wedi fy ngwahardd tan i'r broses ddod i ben.
"Dydw i ddim yn ymwybodol o fanylion y gŵyn, ond rwyf yn cydweithio'n llwyr gyda'r ymchwiliad."
Cafodd Ms Rees ei hethol fel AS yn 2015 fel olynydd Peter Hain, a bu'n aelod o fainc flaen Llafur fel Ysgrifennydd Cymru Cysgodol yn ystod arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.
Hi yw'r 14eg AS i eistedd fel aelod annibynnol yn San Steffan bellach, gan ymuno ag eraill sydd wedi colli chwip eu pleidiau.
O Fynydd Cynffig ym Mhen-y-bont yn wreiddiol, mae hi'n gyfreithwraig, ac yn gyn-wraig i gyn-Ysgrifennydd Cymru Ron Davies cyn iddyn nhw ysgaru yn 1999.
Fe gynrychiolodd hi Gymru mewn sboncen dros 100 o weithiau, ac roedd yn aelod o dîm ieuenctid Prydain yng Ngemau Olympaidd Munich 1972.