'Angen mwy o nyrsys sy'n arbenigo ar ganser y fron eilaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae galw am gael mwy o nyrsys clinigol ledled Cymru sy'n arbenigo ar ganser y fron eilaidd er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu derbyn yr un cymorth.
Cafodd Tassia Haines ddiagnosis o ganser y fron nad oedd modd ei wella yn 2020 - roedd hi'n 28 mlwydd oed.
"Roedd hi ychydig bach fel 'wel ti'n marw beth bynnag felly does dim lot y gallwn ei wneud i ti'," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod disgwyl i nyrsys arbenigol fod yn rhan o ofal cleifion canser, ond mai "mater i fyrddau iechyd" yw penderfynu sut i roi gweithluoedd ar waith.
Mae rhai byrddau iechyd wedi dweud wrth BBC Cymru bod ganddynt gynlluniau i benodi nyrsys yn y maes yma dros y blynyddoedd nesaf.
Dwy nyrs o'r fath ledled Cymru
Wedi'r diagnosis, cafodd Tassia gymorth gan un o'r ddwy nyrs glinigol yng Nghymru sy'n arbenigo ar ganser y fron eilaidd - canser nad oes modd gwella ohono.
Ond mae'n galw am roi cymorth i bawb yn ei sefyllfa hi.
"Fe wnaeth hi i fi deimlo fy mod i'n cael fy nghlywed ac fy mod i'n bwysig. Roedd hi'n tawelu fy meddwl nad oeddwn i'n mynd i farw wythnos nesaf," meddai Tassia.
"Roedd hi'n gyfieithydd pan o'n i wedi fy llethu, a fy llais pan o'n i eisiau dweud rhywbeth ond yn teimlo fel 'mod i methu achos mai dim ond claf dwl oeddwn i. Fyddwn i ddim yma heddiw oni bai amdani hi."
Cafodd Tassia driniaeth yn Abertawe, lle mae yna nyrs oncoleg sy'n trin cleifion canser y fron eilaidd.
Mae ei thriniaeth bellach wedi symud i Gaerdydd, lle mae'r data diweddaraf yn dangos nad oes nyrs gyda'r un dyletswyddau yn bodoli.
Yr unig fwrdd iechyd arall â nyrs debyg yw Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Deiseb i'r Senedd
Bydd deiseb a gafodd ei lansio gan Tassia'n cael ei torafod yn y Senedd yr wythnos nesaf ar ôl derbyn cefnogaeth eang. Mae'n galw am fwy o'r nyrsys hyn ledled Cymru.
Mae'r ddeiseb hefyd yn galw am gofnodi nifer y cleifion sy'n dioddef o ganser y fron eilaidd yng Nghymru.
Yn gynharach yr wythnos hon fe rannodd Andrea Price Jones o Gastell-nedd ei stori ar raglen Dros Frecwast.
Yn 59 oed, mae hi wedi bod yn byw gyda'i chanser ers wyth mlynedd, ac mae wedi lledaenu i'w hesgyrn, afu ac asennau.
Pan gafodd Andrea ei diagnosis derbyniodd gefnogaeth gan nyrs arbenigol, a gwnaeth hynny fyd o wahaniaeth.
Ann Baker oedd nyrs arbenigol Tassia ac Andrea yn Abertawe, ac fe weithiodd gyda channoedd o gleifion tan iddi ymddeol y llynedd.
"Roedd gen i 186 o gleifion â chanser y fron eilaidd o dan fy ngofal wrth i mi ymddeol," meddai.
"Fi bia'r data. Nid data swyddogol yw e ond mae angen mynd i'r afael ag e fel bod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y gofal sydd ei angen."
Cafodd Ann Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2020 am ei gwaith gyda chleifion canser y fron eilaidd ar ôl cael ei henwebu gan ei chleifion.
Dywedodd pennaeth Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, Richard Pugh fod cleifion canser y fron nad oes modd gwella yn troi atyn nhw am gymorth am nad yw ar gael ar y gwasanaeth iechyd.
"Dyw hon ddim yn alwad newydd; ry'n ni wedi clywed hyn nawr ers degawd," meddai.
"Fel Macmillan rydyn ni wedi dechrau rhoi rolau yn y maes hwn oherwydd allwn ni ddim aros mwyach.
"Rydyn ni'n gwybod beth mae'r rolau hynny'n eu cyflawni. Mae angen llai o feddwl a mwy o wneud i sicrhau bod y swyddi yma mewn lle."
'Mater i fyrddau iechyd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y nyrsys arbenigol yn "chwarae rhan bwysig a gwerthfawr", a'u bod yn disgwyl i nyrsys arbenigol fod yn rhan o ofal cleifion canser, ond mai "mater i fyrddau iechyd yw penderfynu sut i roi eu gweithluoedd ar waith i gyrraedd safonau proffesiynol".
Ychwanegodd: "Mae cynllun gwybodaeth canser newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd fydd yn rhoi gwell data ar ganser metastatig, a'r flwyddyn nesaf bydd archwiliad clinigol cenedlaethol yn cael ei gyflwyno ar gyfer canser metastatig er mwyn cefnogi gwelliannau yn safon y gofal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2022