Y Bencampwriaeth: Burnley 4-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
VitinhoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vitinho sgoriodd y gôl gyntaf o bedair i Burnley

Daeth rhediad da Abertawe i ben ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw gael cweir oddi cartref yn Burnley.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr, wrth i Vitinho benio croesiad Ian Maatsen i'r rhwyd ar y postyn pellaf.

O fewn hanner awr roedd Burnley wedi dyblu eu mantais gyda gôl gan Jay Rodriguez, cyn i Anass Zaroury ychwanegu trydedd ar drothwy hanner amser yn dilyn camgymeriad gan Ben Cabango.

Parhau wnaeth artaith Abertawe yn yr ail hanner wrth i Rodriguez rwydo ei ail gôl wedi 57 munud, cyn i Joël Piroe weld cerdyn coch i'r ymwelwyr am stampio ar Josh Cullen.

Roedd yr Elyrch wedi ennill pedair gêm yn olynol yn y gynghrair cyn teithio i Burnley, ond mae'r golled yn eu gweld yn disgyn un safle o seithfed i wythfed yn y Bencampwriaeth.