Layton Maxwell: Carcharu cyn-chwaraewr Caerdydd ac Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bêl-droediwr proffesiynol wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am fod yn rhan o gang gwerthu cyffuriau.
Cafodd Layton Maxwell ddechrau addawol i'w yrfa, gan sgorio yn Anfield yn ystod ei gêm gyntaf i Lerpwl pan oedd yn 19 oed.
Ond ar ôl i yrfa cyn-chwaraewr Caerdydd ac Abertawe ddod i ben, ymunodd Maxwell â gang gwerthu cocên.
Clywodd llys fod Maxwell, 43, wedi caniatáu i gang ddefnyddio ei gartref yng Nghaerdydd i storio cyffuriau mewn ymgyrch droseddol gwerth £6m.
Cafodd swyddogion heddlu hyd i gyffuriau, arian ac offer pwyso wrth gynnal cyrch ar gartref Maxwell yn ardal Rhiwbeina.
Yn ôl yr erlyniad roedd yn cael ei dalu £500 y mis am gynorthwyo'r gang.
Cafodd ei arestio fel rhan o ymchwiliad Operation Venetic drwy'r DU i drosedd broffesiynol.
Cafodd cyrchoedd eu cynnal ar ôl i swyddogion ddatrys gwasanaeth negeseuon cudd oedd yn cael ei ddefnyddio gan arweinwyr y gang.
Gwerth £6m o gyffuriau
Fe gawson nhw hyd i dros 60 kilo o gocên a heroin - gwerth £6m - ynghŷd â £2.5 mewn arian parod.
Roedd Maxwell yn un o wyth diffynnydd gafodd eu carcharu am 80 mlynedd gan Lys y Goron Caerdydd.
Yn enedigol o Lanelwy, roedd Maxwell yn cael ei ystyried yn chwaraewr addawol pan ddechreuodd gyda Lerpwl yn ei arddegau, gan sgorio yn ystod ei ymddangosiad cyntaf gyda'r clwb yn 1999.
Ond heb ragor o gemau i'r tîm cyntaf, cafodd ei roi ar fenthyg i Stockport County, cyn symud i Gaerdydd ac Abertawe, a gorffen ei yrfa yn Uwch Gynghrair Cymru.
Ar ôl ymddeol o bêl-droed daeth yn beiriannydd gyda Vodafone a bu hefyd yn rheolwr ar Cardiff Draconians yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru.
Fe blediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A a chafodd ei garcharu am wyth mlynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2021