Daf James: 'Y plant sy' wedi newid fy mywyd'

  • Cyhoeddwyd
Daf JamesFfynhonnell y llun, Rebecca Need-Menear
Disgrifiad o’r llun,

Daf James

"Mae pobl yn aml yn dweud, 'mae'r plant yn lwcus i gael chi'. Dwi wastad yn dweud, 'Dwi hefyd yn rili lwcus i gael nhw - maen nhw wedi newid fy mywyd i'. Maen nhw 'di dod a cymaint o gariad ac wedi trawsnewid y ffordd dwi'n teimlo am y byd. A fyddai wastad yn ddiolchgar am hynny."

Dyma eiriau'r dramodydd Daf James am ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel.

Mae Daf yn angerddol am fabwysiadu ar ôl gweld sut mae wedi trawsnewid bywydau ei blant.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae gymaint o blant allan 'na sy' angen y cariad 'na ac angen eu mabwysiadu. Mae gymaint mewn parau sibling fel dau neu dri ac yn y blaen - ond fel arfer mae mwyafrif o bobl dim ond yn mabwysiadu un, wrth reswm.

"Mae hynny'n golygu fod lot o blant mas 'na sy angen cartrefi, cariad a gofal. Pan dwi'n edrych ar fy mhlant i alla'i ddim dychmygu fy mywyd i hebddyn nhw.

"Dwi'n teimlo mor angerddol dros fabwysiadu a chael pobl i feddwl am hwnna fel opsiwn. Wrth gwrs dyw hi ddim yn rhwydd ac mae adegau anodd - ond mae llawer mwy o adegau hapus wedi dod i'n bywyd ni erbyn hyn oherwydd nhw."

Ffynhonnell y llun, Daf James
Disgrifiad o’r llun,

Daf a'i ŵr Hywel

Y flwyddyn gyntaf

Wrth edrych nôl ar ei brofiad ef, mae Daf yn cofio'r flwyddyn gyntaf pan ddaeth y ddau fachgen atyn nhw fel 'twnnel': "Mae'r flwyddyn gynta' yn anodd i unrhyw rhiant achos chi'n dygymod gyda colli eich hunaniaeth.

"Mae'r heriau wrth fabwysiadu yn wahanol, yn enwedig mwy na un plentyn ar yr un pryd. Pan ddaeth y bechgyn oedden nhw'n bump ac yn ddwy oed - maen nhw'n bobl bach erbyn hynny, maen nhw'n gymeriadau.

"A dyw nhw ddim yn 'nabod chi o gwbl, maen nhw wedi gorfod symud mas o'u teulu genedigol nhw mewn i'w teulu maeth nhw ac wedyn symud o fan 'na unwaith eto - mae hwnna'n ddigon o trawma heb sôn am y rhesymau maen nhw wedi gorfod cael eu mabwysiadu yn y lle cyntaf.

"Felly maen nhw'n delio gyda hyn ac yn mynd trwy lot o emosiynau; emosiynau mawr dyw nhw ddim hyd yn oed yn gallu ymgyffred eto, maen nhw'n rhy fach i fedru delio gyda nhw.

"Felly ni gyd fel teulu wedyn yn mynd trwy trawma gwahanol o dan yr un nenfwd."

Ffynhonnell y llun, Daf James

Galar

Ar ben magu teulu newydd roedd Daf yn galaru ei fam oedd wedi marw blwyddyn cyn i'r ddau fachgen gyrraedd eu teulu newydd: "Gollais i'n fam i blwyddyn cyn i'r bois gyrraedd felly o'n i dal yn galaru amdani hi.

"Ac wrth gwrs pan chi'n dod yn rhiant chi'n gweld y byd o bersbectif gwahanol ac yn sydyn reit o'n i ishe gofyn y cwestiynau yna iddi hi - o'n i'n methu holi hi felly mae'r galar 'na i gyd yn dod mas ar yr un pryd."

Ffynhonnell y llun, Daf James

Drama

Mae rhai o'r profiadau hyn wedi ysbarduno Daf i ysgrifennu am fabwysiadu yn ei ddrama ddiweddaraf, Tylwyth, dolen allanol, sy'n edrych ar effaith mabwysiadu ar gwpl hoyw a sut mae eu bywydau nhw a'u cymuned ffrindiau yn newid wrth fynd yn hŷn.

Dechreuodd Daf ysgrifennu'r ddrama nôl yn 2017 ar ôl i'r bechgyn gyrraedd y teulu: "'Oedd fy myd i wedi troi wyneb i waered yn sydyn, yn dod yn dad a mynd trwy hwnna.

"Ond hefyd o'n i'n teimlo ar ôl Brexit roedd y byd yn wleidyddol yn teimlo fel bod e wedi mynd yn hollol nuts, o'n i 'di colli adnabod arno fe ac hefyd o'n i'n colli nabod ar fy hunan, ar fy hunaniaeth fy hunan.

"Mae mabwysiadu wedi newid fi fel person ac fel artist achos mae 'da fi bersbectif hollol wahanol ar y byd na oedd gyda fi cyn mabwysiadu."

Ffynhonnell y llun, Jorge Lizalde
Disgrifiad o’r llun,

Steffan Harri a Simon Watts yn Tylwyth

Gwynebu plentyndod

Un o'r pethau pennaf mae Daf yn dweud iddo ddysgu yw amynedd: "Mae dod yn rhiant i unrhyw blentyn yn neud i chi wynebu eich plentyndod chi eich hunain a'r heriau o'r plentyndod wnaethoch chi ddim wynebu sy' angen eu wynebu nawr er mwyn bod yn rhiant gwell.

"Mae hynny wedi bod yn agoriad llygaid i fi achos o'n i'n ffeindio pa mor rhwydd oedd e i golli tymer.

"O'n i'n meddwl, 'Jiw o'n i'n credu mod i'n berson amyneddgar, heddychlon cyn i fi gael plant'. 'Oedd rhaid i fi wir edrych mewn i'r tymer yma a gofyn, 'O le mae'r tymer yma'n dod?'

"'Oedd lot o hwnna'n dod o os ti'n tyfu lan yn hoyw a meddwl bod bod yn hoyw yn anghywir ac yn byw yng nghyfnod Section 28. O'n i'n grefyddol pan yn blentyn ac yn meddwl bydden i'n mynd i uffern ac hefyd yn cael fy mwlio ar yr un pryd.

"Er bod ni wedi symud mlaen fel cymdeithas, mae'r niwed mae hwnna wedi neud i'n nghenhedlaeth i yn sylweddol. Mae'r cywilydd 'na o'n ni fel cenhedlaeth wedi cael ein gorfodi i deimlo - mae hwnna'n rili trawmatig felly 'oedd rhaid i fi balu'n ddwfn mewn i hwnna ar ôl dod yn dad.

"Ac mae hwnna wedi helpu fi yn bersonol mewn ffordd anferthol ond hefyd mae prosesu hwnna wedi helpu fi i ddod yn dad gwell."

Ffynhonnell y llun, Daf James
Disgrifiad o’r llun,

Y plant yn mwynhau ar y traeth

Cefnogaeth

Mae Daf yn taeru taw siarad am bopeth gyda'i ŵr yn ogystal â chefnogaeth teulu, ffrindiau a gweithwyr cymdeithasol, oedd yn amhrisiadwy er mwyn delio gyda'r heriau cychwynnol.

Hefyd mae ganddynt berthynas agos gyda mam maeth y bechgyn: "Mae hi'n rhan mor bwysig o fywydau'r plant. Hi 'nath gymryd nhw mewn pan oedden nhw mwya' bregus ac oedd hi gyda nhw am flwyddyn. Mae hi'n archarwr sydd wedi maethu dros 400 o blant.

"Felly doedd dim ffordd o'n i'n mynd i adael fynd ohoni hi. Am y flwyddyn gynta' oedd hi ar Speed-dial gyda ni!"

Erbyn hyn mae'r pâr wedi mabwysiadu merch fach hefyd sy' wedi bod yn rhan o'r teulu ers dros ddwy flynedd.

Fel mae Daf yn dweud: "Er oedd hi'n anodd i gychwyn mae'n amlwg fod rhywbeth wedi mynd yn iawn neu bydden ni ddim yn neud e eto!

"Erbyn hyn mae'n ran o'n hunaniaeth i - ni yn rhieni a 'da ni ddim ofn rhagor, mae 'na gymaint o ofn yn y flwyddyn gyntaf 'na bod chi'n methu neud e.

"Ar ôl cwpl o flynyddoedd chi'n gweld y gwahaniaeth mae'r cariad yna wedi gwneud - chi'n gweld y gwahaniaeth 'na mae'r ffordd chi'n bod yn rhiant iddyn nhw wedi gwneud iddyn nhw.

"Mae'r tri o nhw - mae cymaint o gariad 'na ac mae'n teimlo yn iawn ac maen teimlo fel dyma ni, dyma'n teulu ni, mae'r tylwyth wedi landio."

Gwrandewch ar Daf James yn siarad gyda Tara Bethan ym mhodlediad Dewr

Pynciau cysylltiedig