Y Bencampwriaeth: Queens Park Rangers 3-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lyndon DykesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Lyndon Dykes o'r smotyn, cyn dyblu mantais QPR yn ddiweddarach

Fe gafodd Caerdydd eu trechu'n gyfforddus oddi cartref yn Queens Park Rangers nos Fercher, gyda cherdyn coch cynnar yn arwain at noson anodd i'r Adar Gleision.

Cafodd yr ymwelwyr ddechrau trychinebus wrth i Jack Simpson gael ei yrru o'r maes ar ôl 18 munud am drosedd ar Sinclair Armstrong yn y cwrt cosbi.

Sgoriodd Lyndon Dykes o'r smotyn i roi'r tîm cartref ar y blaen, cyn iddo ddyblu'r fantais gyda pheniad o groesiad Ilias Chair wedi ychydig dros hanner awr.

Ychwanegodd Kenneth Paal drydedd i QPR gyda chwarter awr yn weddill i selio'r fuddugoliaeth a'u cymryd i frig y Bencampwriaeth.

Mae'r canlyniad yn gweld Caerdydd yn aros yn y 18fed safle yn y tabl.