'Mellten ar ôl mellten yn goleuo'r awyr'
- Cyhoeddwyd
"Dwi erioed wedi gweld mellt fel yna o'r blaen."
Dyna fu ymateb llawer sy'n byw o Sir Benfro i Sir Fôn ar nos Fercher 19 Hydref. Roedd "y mellt yn dawnsio disgo" ac roedd hi'n "andros o sioe fellt" yn ôl rhai a brofodd tua dwy awr di-dor o'r awyr yn fflachio fesul eiliadau.
Dr Paula Roberts, uwch ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor sy'n egluro beth achosodd y storm anghyffredin o fellt a tharanau.
'Miloedd o fellt wedi'u cofnodi'
"Adra yn Llanberis" oedd Paula pan glywodd hi'r storm a oedd ar ei anterth yn yr ardal honno rhwng 10yh a hanner nos.
Eglura Paula: "Ddoth y gŵr adra o Gaernarfon a dweud 'Wannwl mai'n melltio allan.' Oedd yr awyr yn ddistop o fflachiadau doedd! Oedd o'n ddiddorol ac yn eitha anghyffredin i Gymru a'r pen yma o'r byd.
"Gyda'r patrwm tywydd ar hyn o bryd, rydan ni yn styc mewn system gymhleth iawn lle mae'n tynnu tywydd i fyny o'r de sy'n egluro pam y mellt neithiwr mewn ffordd - mae hi'n ddiwadd mis Hydref a mae hi dal reit gynnas.
"Be' ddigwyddodd oedd - mi dynnodd o'r stormydd yma fyny efo fo hefyd felly be' welson ni oedd pulse o stormydd a mellt a tharanau a glaw trwm yn pasio dros Gernyw, croesi Sir Benfro achos oedd 'na lot o luniau o Sir Benfro ar y gwefannau cymdeithasol, yna i fyny'r môr yn bennaf rhwng Cymru ac Iwerddon.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mi oedd 'na lot o fellt a tharanau jest i'r de o Ddulyn a wedyn mi ddoth o ar draws Pen Llŷn ac i fyny am Môn lle oedd o jest yn ddi-stop.
"Oedd 'na rai o'r mellt yn taro'r ddaear ond oedd 'na lot o felltio jest yn yr awyr hefyd - oedd o'n drawiadol. Dwin siŵr bod 'na filoedd o fellt wedi'u cofnodi ar rai o'r gwefannau cofnodi mellt.
"Yn fy ardal i yn Llanberis oeddan ni yn lwcus achos doedd na ddim mellt yn agos iawn i ni, ond ti'n edrych ar fapiau arlein a mi gafodd Pwllheli a Nefyn eu hamro efo mellt a tharanau.
"Mi wnaeth o ffislo allan o gwmpas Ynys Manaw a wedyn erbyn bora 'ma mae o di mynd yn gyfan gwbl er iddi ddal felltio mymryn yn nwyrain Lloegr.
"Roedd o'n ddipyn o sioe, ac efo beth oedd yn mynd ymlaen yn San Steffan neithiwr - mae'n anodd penderfynu beth oedd fwyaf dramatig - y mellt ta San Steffan!"
'Fel noson tân gwyllt byd natur!'
Un arall gafodd ei wefreiddio gan y storm olau oedd cyflwynydd tywydd BBC Radio Cymru, Robin Owain.
Meddai: "O'n i'n edrych ar y mapiau ac yn dilyn y storm yn datblygu dros Fae Ceredigion, gan ryfeddu cynifer o fellt oedd yno. Wrth i'r storm symud tua'r gogledd dros Ben Llŷn, mi o'dd fflachiadau'r mellt i'w gweld yn yr awyr i'r de-orllewin o Gaernarfon.
"Fyny a fi i'r atig i wylio'r sioe - ac am sioe oedd hi! Ar ei hanterth, yn hanner awr dda siŵr o fod o fellten ar ôl mellten ar ôl mellten yn goleuo'r awyr yn las a phiws llachar. Dwi erioed wedi gweld na phrofi storm fellt a tharanau mor actif."
Ydy Cymru wedi arfer gyda stormydd mellt di-dor?
Gyda phobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni nad oedden nhw erioed wedi gweld mellt tebyg o'r blaen, mae stormydd o'r fath yn fwy cyffredin ar lefel byd eang.
Yn ôl Paula: "Yn fyd eang dwi'n siŵr bod unrhyw un sydd wedi bod yn styc mewn un o'r stormydd 'ma mewn llefydd ychydig poethach yn y byd yn gyfarwydd â nhw.
"Dwi'n cofio bod yn Ffrainc un tro a gafon ni bwl o wbath tebyg yn fan'no - oedd hi jest yn melltio yn gyson. Ond mae o eitha' anghyffredin yn y rhan yma o'r byd achos fel arfar does yna ddim gymaint o egni yn yr atmosffer, ond mae yna ar hyn o bryd mae'n ymddangos.
"Dwi'n cofio gwario un haf gyfan ar Ynys Enlli. Oedd yna un noson yn fan'no lle o'n i'n ista yn gwylio rwbath tebyg i neithiwr yn pasio i fyny'r môr ond dydi o ddim yn rwbath 'dan ni yn weld yn aml iawn yng Nghymru, dim ar y lefel yma."
Mwy o'r awyr yn melltio, dreigio, llychedu neu'n twlu gole...
Hefyd o ddiddordeb: