Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru i wynebu Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Cais Seland NewyddFfynhonnell y llun, Greg Bowker
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Seland Newydd ddeg cais pan chwaraeodd y ddau wlad yn erbyn eu gilydd yn y grwpiau

Mae gobeithion merched Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn parhau'n fyw er colli yn erbyn Awstralia yn eu gêm grŵp olaf.

Roedd yn rhaid i Gymru ddisgwyl am ganlyniadau gemau eraill y penwythnos i weld os oeddant yn cyrraedd y trothwy fel un o'r ddau dîm gorau a orffennodd yn drydydd yn eu grwpiau.

Ond er colli yn erbyn Awstralia, llwyddodd dîm Ioan Cunningham i sicrhau pwynt bonws mewn gêm a welodd Siwan Lillicrap yn ennill ei hanner canfed cap.

Ynghŷd a buddugoliaeth dros yr Alban yn eu gêm gyntaf, profodd hynny'n ddigon i gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Er hynny, mae sialens a hanner yn wynebu'r merched gan byddant yn wynebu'r prif ddetholion, Seland Newydd - a drechodd Cymru o 56-12 yn gynharach yn y gystadleuaeth.

Pwynt bonws

Roedd hanner cyntaf gêm dydd Sadwrn yn un agos wrth i Awstralia ddechrau orau gyda Iliseva Batibasaga yn trosi o dan y pyst wedi ond pum munud.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Jones yn ceisio ffeindio ffordd drwy amddiffyn y Wallaroos

Ond daeth Cymru'n gyfartal wedi 23 munud diolch i gais Sioned Harries, gyda chic Elinor Snowsil hefyd yn gywir.

Awstralia aeth fewn i'r egwyl ar y blaen, serch hynny, wedi cic gosb Lori Cramer.

Daeth gobaith hwyr i Gymru pan dangoswyd cerdyn melyn i olwr Awstralia, Kaitlan Leaney, am dacl beryglus ar Alex Callender gyda 10 munud yn weddill.

Ond roedd cic gosb arall gan Cramer, gydag ond dau funud yn weddill, yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth.