Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru 12-56 Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Ruby TuiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ruby Tui yn croesi ar gyfer 10fed cais y deiliaid yn yr eiliadau olaf

Cafodd Cymru eu trechu'n gyfforddus gan y pencampwyr presennol Seland Newydd yn eu grŵp Cwpan y Byd fore Sul.

Er i Gymru sgorio dau gais yn erbyn Seland Newydd, sydd hefyd yn cynnal y gystadleuaeth, fe lwyddodd y gwrthwynebwyr i sgorio 10.

Er y canlyniad, mae Cymru'n parhau mewn safle da wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

Roedd Stadiwm Waitākere yn llawn ar gyfer y gêm, gyda thua 100 o gefnogwyr Cymru wedi gwneud y daith hir i Auckland.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ffion Lewis i Gymru ar ddiwedd yr hanner cyntaf i'w gwneud yn 22-7 ar yr egwyl

Wedi dechrau addawol i Gymru, Seland Newydd sgoriodd gyntaf gyda chais gan Chelsea Bremner, cyn i Portia Woodman a Sylvia Brunt ychwanegu ail a thrydydd yn fuan wedi hynny,

Sicrhaodd Woodman ei hail gais, cyn i'r mewnwr Ffion Lewis sgorio i Gymru ar ddiwedd yr hanner cyntaf i'w gwneud yn 22-7 ar yr egwyl.

Ond fe ddechreuodd y deiliaid yr ail hanner yn gryf gyda dau gais sydyn gan Maia Roos a Theresa Fitzpatrick.

Ychwanegodd Brunt ei hail gais cyn i Krystal Murray sgorio wythfed i un o'r ffefrynnau ar gyfer y gystadleuaeth.

Er i Sarah Hirini weld cerdyn melyn i Seland Newydd gyda 10 munud i fynd, nhw sgoriodd eto trwy Ruahei Demant, cyn iddyn nhw fynd lawr i 13 chwaraewr yn y munudau olaf gyda cherdyn melyn i Charmaine McMenamin.

Llwyddodd Sioned Harries i groesi i Gymru yn y cyfnod yma, cyn i Seland Newydd gael y gair olaf gyda chais i Ruby Tui.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth ail gais i Gymru yn y munudau olaf trwy Sioned Harries

Bydd Cymru'n herio Awstralia yn eu gêm olaf yn y grŵp y penwythnos nesaf.

12 tîm sydd yn y gystadleuaeth, gyda'r ddau uchaf yn y tri grŵp a dau o'r timau yn y trydydd safle yn gwneud yr wyth olaf.

Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn eu gêm gyntaf, mae Cymru â chyfle da o fynd trwodd, hyd yn oed pe bydden nhw'n colli yn erbyn Awstralia.