Triniaeth dramor: 'Mae wedi bod yn uffern'
- Cyhoeddwyd
Mae llawfeddygon yn pryderu am y nifer o gleifion sy'n dioddef cymhlethdodau iechyd difrifol ar ôl derbyn llawdriniaeth dramor i osod llawes gastrig.
Bu bron i Emma, sy'n 34 oed o Borthcawl, farw o sepsis bythefnos ar ôl derbyn llawes gastrig mewn ysbyty yn Nhwrci.
Wedi bod yn yr ysbyty ers mis Mai, mae'n dweud ei bod yn "difaru derbyn y driniaeth o gwbl" ac yn cael "ias wrth feddwl y gallai ei phlant fod wedi colli eu mam".
Dywed Llywodraeth Cymru fod y Gwasanaeth Iechyd yn rhoi cymorth brys i bawb sydd mewn angen.
Rhybudd: Gall rhai o'r lluniau yn y stori hon beri gofid
Cymhlethdodau
Roedd Emma, sy'n fam i dri o blant ac yn byw ym Mhorthcawl, wedi cael trafferth colli pwysau ers blynyddoedd.
Ar ôl i nifer o'i ffrindiau dderbyn triniaeth dramor ac wedi iddi ymchwilo ar y we, mi deithiodd hi gyda ffrind i dderbyn llawes gastrig yr un mewn ysbyty yn Istanbwl fis Ebrill 2022.
Mae'r llawdriniaeth yn cynnwys torri rhan helaeth o'r stumog i ffwrdd, gyda'r claf yna'n teimlo'n llawn ar ôl bwyta ychydig ac yn colli pwysau o ganlyniad.
Yn ôl Emma roedd y "llawdriniaeth a'r gofal yn ardderchog ac roedd yr ysbyty'n lân ofnadwy".
Ond bythefnos ar ôl dychwelyd adref mi ddeffrodd yng nghanol y nos mewn poen ac yn methu anadlu.
Cafodd ei rhuthro i'r ysbyty yn dioddef o sepsis gan bod hylif wedi cronni o dan yr ysgyfaint.
Fe achubwyd ei bywyd gan lawdriniaeth frys, ond bythefnos yn ddiweddarach datblygodd niwmonia.
Fis Gorffennaf cafodd ei rhuthro yn ôl i'r ysbyty gyda sepsis eto - ac mi ddaeth i'r amlwg bod yna doriad bach yn ei choluddyn a'i fod yn gollwng.
O ganlyniad i'r driniaeth dydy hi ddim wedi gallu bwyta ers naw wythnos - dim ond sipian dŵr.
"Rwy'n ysu i gael paned o de," meddai.
"Rwy'n rîli dyfaru cael y driniaeth yma. Mae wedi bod yn uffern", meddai.
"Mae'n lwcus mod i ddim wedi marw, ac dwi'n dal i gael hunllefau wrth feddwl y gallai fy mhlant fod heb fam.
"Rwy' wir yn gobeithio y gallaf ddod adref cyn y Nadolig."
'Straen ar y gwasanaeth'
Dywedodd Andrew Beamish, sy'n llawfeddyg bariatrig ymgynghorol yn Ysbyty Treforys: "Dwi'n poeni am y nifer o gleifion sy'n dod atom ni gyda chymhlethdodau difrifol ar ôl derbyn triniaethau bariatrig dramor.
"Tydi hyn ddim yn gynaliadwy ac mae'n rhoi straen ar y gwasanaeth"
Ysbyty Treforys yw'r unig uned bariatrig arbenigol yng Nghymru.
Mae llawdriniaeth o'r fath yn costio tua £12,000 mewn clinig preifat ym Mhrydain, i'w gymharu â £3,000 dramor.
Ychwanegodd Dr Beamish: "Mae'n wir angen mwy o fuddsoddiad ar y gwasanaeth.
"Da ni ddim yn gweld bai ar bobl am fynd dramor oherwydd mae nifer ohonyn nhw o deuluoedd incwm isel ac yn methu fforddio'r driniaeth yn y wlad yma."
'Diffyg ôl ofal'
Ychwanegodd bod nodiadau meddygol cleifion sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn Nhwrci yn debyg iawn i'r rhai yma, ond mai "diffyg gofal ar ôl y llawdriniaeth" oedd y broblem.
"Mae pobl yn mynd ar eu gwyliau ac yn mynd i'r ysbyty am ddwy noson, aros mewn gwesty am 'chydig o nosweithiau cyn hedfan adref.
"Mae angen gofal arbenigol pellach sy'n cynnwys seicolegwyr a deietegwyr - oherwydd allwch chi ddim cario mlaen i fwyta'r un faint o fwyd.
"Dim ond un elfen yw'r llawdriniaeth mewn rhaglen colli pwysau.
"Mae pobl yn desperate ac yn gwneud unrhywbeth i ddod o hyd i'r arian i'w gael e yn rhywle".
Newid byd
Ond un a gafodd driniaeth yn Nhwrci sydd "wedi newid ei bywyd" yw Steph Moore, sy'n 31 oed o Gasnewydd ac sydd wedi colli 10 stôn.
"Mi wnes i dreulio misoedd yn chwilio am lawfeddyg o safon," meddai.
"Mi o'n i ffwrdd am wythnos - tridiau yn yr Ysbyty, a 'chydig o ddyddiau yn y gwesty a wedyn hedfan adre.
"Rwy'n dal i gadw mewn cysylltiad gyda fy llawfeddyg drwy whatsapp ac yn cael galwad fideo pob tri mis.
"Mae'r gofal wedi bod yn wych - yr unig beth dwi'n ei ddifaru yw'r ffaith na ches i ddim o'r driniaeth ynghynt.
"Rwy wedi bod yn desperate i gael plant ond gan bo fi dros fy mhwysau doeddwn i ddim yn gymwys i gael triniaeth IVF ar y Gwasanaeth Iechyd. Nes i drio pob math o ddeiets.
"Mae'r llawdriniaeth wedi newid fy mywyd - nes i briodi'r haf yma a chael 10 modfedd oddi ar fy ffrog.
"Nawr fi'n chwarae rygbi, seiclo ac wedi arwyddo i neud Hanner Marathon Caerdydd ac yn cael dechrau fy nhriniaeth IVF wythnos nesa!
"Mae pedwar o fy ffrindiau wedi bookio i fynd i'r un ysbyty ar ôl fy mhrofiad i."
Ond er gwaethaf ei phrofiad mae'n rhybuddio bod angen i bobl gymryd gofal - "mae yna glinigau dodgy allan yna a gymaint o horror stories - mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith cartref."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Os yw pobl yn ystyried gofal iechyd preifat o unrhyw fath, mae'n bwysig eu bod yn ymchwilio'n llawn cyn cael triniaeth.
"Byddem yn annog pobl i wirio eu bod yn delio â rhywun ag enw da, gofyn am gael gweld eu cymwysterau, holi am gymhlethdodau a sgil effeithiau ac, os yn bosib, siarad â phobl eraill sydd wedi cael triniaeth yn yr un clinig neu ysbyty."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022