Rhestrau aros triniaethau ysbyty ar gynnydd eto
- Cyhoeddwyd
Mae rhestrau aros am driniaethau gyda'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed, gyda bron i dri chwarter miliwn o driniaethau'n aros i gael eu cwblhau.
Yn ôl y ffigyrau misol diweddaraf, fe dyfodd y rhestrau aros i 743,229 ym mis Gorffennaf - cynnydd am y 27ain mis yn olynol.
Mae hyn 60.4% yn fwy nag yn Chwefror 2020 cyn y pandemig.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod y nifer sy'n aros dros flwyddyn wedi cynyddu i fwy na 181,000 ym mis Gorffennaf.
Dyma'r lefel uchaf erioed, ond mae'n ymddangos yn eithaf cyson ers gwanwyn 2021.
Ond mae'r niferoedd sy'n aros hiraf am driniaethau - sef mwy na dwy flynedd - wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol. Serch hynny, mae 60,557 yn dal i aros cyhyd.
Targedau
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nifer o dargedau i geisio lleihau'r amseroedd aros.
Mae'r rhain yn cynnwys cael gwared ar y rhestr aros dros ddwy flynedd o fewn mwyafrif y meysydd arbenigol erbyn Mawrth 2023, a'r rhestr aros am fwy na blwyddyn yn y mwyafrif o feysydd arbenigol erbyn gwanwyn 2025.
Y nod cynharaf yw na ddylai pobl fod yn aros dros flwyddyn ar gyfer eu hapwyntiadau cyntaf erbyn diwedd eleni.
Ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos pa mor anodd fydd hi i gyrraedd y targed hwnnw, gyda mwy na 100,000 wedi aros dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf ym mis Gorffennaf.
Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos bod gofal brys y GIG yng Nghymru yn dal i fod dan bwysau.
Yn Awst eleni, fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans ond ymateb i 50.7% o alwadau 'coch' - lle mae bygythiad uniongyrchol i fywyd - o fewn wyth munud. Roedd hynny'n agos i'r lefel isaf erioed o 50.5% yn Hydref 2021.
Dyw'r targed o ymateb i 65% o'r galwadau hyn o fewn wyth munud heb ei gyrraedd ers mwy na dwy flynedd.
Yn y cyfamser, roedd adrannau brys ysbytai dan bwysau sylweddol gydag ond 67% o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn unedau brys ym mis Awst.
Roedd hynny'n welliant o 65.9% yn y mis blaenorol, ond mae'n dal yn sylweddol is na'r targed o 95% sydd erioed wedi ei gyrraedd.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos y bu 10,701 yn aros mwy na 12 awr yn yr adrannau hynny ym mis Awst. Y targed yw na ddylai unrhyw un aros gymaint o amser â hynny.
Teithio dramor am driniaeth
Mae'n ymddangos bod nifer cynyddol o bobl yn dewis talu er mwyn teithio dramor am lawdriniaeth oherwydd bod rhestrau aros y gwasanaeth iechyd mor hir.
Dros y penwythnos diwethaf, cafodd cinio ei drefnu yng nglwb golff Treforys ar gyfer unigolion sydd eisoes wedi teithio i Lithwania i glinig sy'n arbenigo mewn triniaethau orthopedeg.
Fe wnaeth dwsinau o bobl ymgynnull yno, oedd yn dod o bob cwr o dde Cymru, o Sir Benfro i Sir Fynwy, er mwyn rhannu'u profiadau ac ateb cwestiynau gan unigolion sy'n ystyried dilyn yr un llwybr.
Cafodd David Jones, 74, sy'n farbwr o Glydach, glun newydd yn Lithwania fis Hydref diwethaf ar ôl bod ar restr aros y gwasanaeth iechyd ers dwy flynedd a hanner.
"Rodd y boen yn anioddefol" meddai, "ro'n i'n torri gwallt gŵr ar un adeg ac mi ofynnodd wrthai beth oedd y sŵn oedd e'n ei glywed - a sŵn esgyrn fy nghlun yn rhwbio yn erbyn ei gilydd oedd hwnnw.
"Roeddwn i'n byw ar pain-killers. Ro'n i'n ffonio'r gwasanaeth iechyd yn aml ond allai neb roi syniad i mi am faint fyddai'n rhaid i fi aros."
Fe gafodd David wybod am y clinig yn Lithwania ar ôl i wraig ei ffrind fynd yno am driniaeth.
"Fe anfonais i ebost i'r clinig ar ddydd Mercher, fe atebon nhw ar y dydd Iau ag opsiynau, ac wythnos i'r dydd Sadwrn wedyn fe hedfanais i mas," eglurodd.
"Erbyn hyn wy'n teimlo'n wych... 'wy'n cerdded milltiroedd bob dydd a wedi nofio yn y môr eto."
Fe gostiodd y driniaeth ychydig yn llai na £8,000 i David - swm oedd yn cynnwys llety iddo ef a'i wraig ynghyd â 10 niwrnod o ffisiotherapi cyn dychwelyd adref.
"Roeddwn i'n lwcus fy mod i mewn sefyllfa i fforddio gwneud hyn ond nid pawb sydd â'r incwm i ganiatáu iddyn nhw deithio a thalu. Mae'n sefyllfa drist."
'Llygedyn o obaith'
Mae'r gweinidog iechyd Eluned Morgan yn cyfaddef ei bod wedi cael "sgwrs eithaf cryf" gyda byrddau iechyd yn sgil y ffigyrau diweddaraf.
"Mae'n ddarlun sy'n anodd iawn i ni," meddai, gan ychwanegu fod y "pwysau wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd pethau fel costau egni".
"[Ond] hefyd mae'n rhaid i ni sicrhau fod pobl yn cael eu brechlynnau Covid. Felly mae pob math o bethau sydd yn dal i fod yn bwysau ar y system.
"Mae 'na lygedyn o obaith yn y ffigyrau yma. Felly mae'r bobl sydd yn aros am dwy flynedd, mae rheiny wedi dod lawr am y pedwerydd mis yn olynol a dwi'n awyddus iawn i weld fod pobl yn cael eu gweld."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i weld gwelliannau a nifer fawr o bobl yn cael triniaeth" ond bod "gwasanaethau a staff gofal argyfwng yn parhau i fod dan bwysau".
"Nid yw perfformiad ar hyn o bryd ar y lefel rydyn ni, y byrddau iechyd na'r cyhoedd yn dymuno iddo fod. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld lleihad o 16% mewn derbyniadau argyfwng i'r ysbyty yng Nghymru o gymharu â mis Awst 2021."
Dywedon eu bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau gofal argyfwng ac yn "parhau i roi blaenoriaeth i wella'r broses o gynllunio i ryddhau a chynyddu'r capasiti cymunedol cyn cyfnod y gaeaf".
Mewn ymateb i'r ffigyrau diweddaraf dywedodd yr Aelod o'r Senedd a llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, bod angen i'r Blaid Lafur "gael gafael ar y GIG a stopio torri pob record anghywir".
"Dro ar ôl tro ry'n ni'n gweld yr rhestrau aros enfawr hyn yn y GIG sy'n cael ei redeg gan Lafur ond prin yw'r strategaethau i'w taclo nhw.
"Mae cleifion a staff y GIG yng Nghymru yn haeddu system gofal iechyd sydd o leiaf cystal ag mewn mannau eraill yn y DU."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022