Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Callum Robinson gerdyn coch wedi iddo daflu'r bêl yn erbyn wyneb amddiffynwr Abertawe, Ben Cabango
Llwyddodd Abertawe i gipio'r fuddugoliaeth yn narbi de Cymru mewn gêm a welodd Caerdydd yn chwarae'r rhan fwyaf ohoni gydag ond deg dyn.
Mewn hanner cyntaf llawn cyffro aeth yr Elyrch ar y blaen diolch i gôl Ollie Cooper, wedi i Callum Robinson o'r Adar Gleision gael ei anfon o'r maes.
Saith munud yn unig oedd ar y cloc ond doedd dim dewis gan y dyfarnwr ond dangos cerdyn coch i Robinson wedi iddo golli ei ben yn llwyr a thaflu'r bêl yn wyneb amddiffynwr Cymru, Ben Cabango.
O ganlyniad, bu'n rhaid i'w dîm chwarae gydag un dyn yn llai am bron i 90 munud.
Gan orfodi Mark Hudson i newid y system, daeth y gorau o'r cyfleon i'r Elyrch cyn agor y sgorio wedi 38 munud.
Roedd tîm Russell Martin yn teimlo y dylen nhw fod wedi cael cic o'r smotyn funudau ynghynt, ond ddaeth y gôl agoriadol yn fuan wedyn wrth i ergyd gelfydd Ollie Cooper guro Ryan Allsop.

Hon oedd trydydd gôl Ollie Cooper mewn pedair gêm
Wrth fynd mewn i'r egwyl ar y blaen, prin wnaeth pethau wella i'r Adar Gleision yn yr ail hanner cyn i Michael Obafemi ddyblu'r fantais gyda 67 munud ar y cloc, yn dilyn gwaith da gan Matt Grimes.
Bu bron i Obafemi sgorio trydydd i'r Elyrch, ond mynd heibio'r postyn o drwch blewyn wnaeth ei ymdrech hwyr.