Amser aros am glun newydd 'wedi fy ninistrio'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i'r GIG "gyflymu'r broses" o drin y miloedd o bobl sy'n disgwyl mwy na dwy flynedd am driniaeth ysbyty, yn ôl y gweinidog iechyd.
Dywedodd Eluned Morgan AS bod angen i'r byrddau iechyd flaenoriaethu'r "rheiny sydd wedi aros hiraf ac nad ydyn nhw bob amser yn gwneud hynny."
Er bod y niferoedd sy'n aros ers dros dwy flynedd wedi gostwng am y pumed mis yn olynol, mae 59,350 o gleifion yn dal i aros cyhyd am lawdriniaethau a thriniaethau.
Yn Yr Alban mae tua 7,650 o bobl sydd wedi aros mwy na dwy flynedd, tra yn Lloegr mae 2,646 yn yr un sefyllfa.
Yng Nghymru, mae yna hefyd 183,450 o lawdriniaethau a gweithdrefnau sy'n aros mwy na blwyddyn i gael eu cwblhau ac mae'r amseroedd aros cyffredinol - o'r amser mae'r claf yn cael eu cyfeirio i'r ysbyty at phryd byddant yn derbyn y driniaeth - wedi pasio 750,000.
Pan ofynnwyd ar raglen BBC Politics Wales pam fod cymaint mwy o bobl yn aros yn hirach yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS: "Mae angen i'n byrddau iechyd wneud yn siŵr eu bod nhw'n trin y rhai sy'n aros hiraf, a dydyn nhw ddim bob amser yn gwneud hynny."
Colli swydd a symud cartref
Mae Stewart Rathbone o Abergwaun wedi bod yn aros dros ddwy flynedd am glun newydd.
Yn 58, roedd yn arfer gweithio ar fferm laeth, a oedd yn cynnwys tŷ i'w deulu fyw ynddo.
Ond wrth fethu â gweithio oherwydd bod ei glun yn dirywio, mae Mr Rathbone bellach wedi colli ei swydd ac wedi symud cartref.
Dywedodd: "Yn ariannol, fe wnaeth fy ninistrio i. Fel teulu, fe wnaeth ein dinistrio ni'n llwyr.
"Pe bawn i wedi cael y llawdriniaeth o'r cychwyn cyntaf... ni fyddai'r hyn a ddigwyddodd i fy nheulu wedi digwydd.
"Mae'n debyg y byddwn i'n dal i weithio ar yr un fferm."
'Gwneud smonach'
Ddydd Mawrth, fe ymatebodd y prif weinidog yn flin pan gododd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig achosion o bobl yn gorfod aros oriau am ambiwlans, gan gyhuddo'r Ceidwadwyr o wneud smonach o gyllideb ac enw da'r DU.
Roedd achos Keith Morris yn un o'r rhai a godwyd, a oedd wedi ei adael mewn poen ar y llawr am 15 awr yn disgwyl am ambiwlans.
Dywedodd ei ferch Andrea Morris Nicholas - hefyd yn bleidleiswraig Lafur gydol oes - wrth Politics Wales ei bod yn "siomedig" gydag ymateb Mark Drakeford, ac bod "rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb."
Pan ofynwyd iddi a oedd y prif weinidog a llywodraeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb, dywedodd Eluned Morgan: "Ni sy'n gyfrifol am redeg y GIG.
"Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n bwysig i bobl ei ddeall yw ein bod yn cael ein cyfyngu gan gyllidebau.
"Felly, mae hynny'n golygu nad oes gennym ni'r arian [i'w wario ar y GIG] yr hoffen ni ei gael ar adeg pan fo'r galw yn mynd trwy'r to.
"Rydyn ni eisoes wedi recriwtio 250 o weithwyr ambiwlans ychwanegol, mae gennym ni 100 arall i ddod.
"Maen nhw i gyd wedi cael eu penodi, maen nhw mewn hyfforddiant a byddan nhw'n barod erbyn mis Rhagfyr.
"Felly, ychydig yn hwyrach nag yr oedden ni wedi gobeithio ond pe na baen ni wedi dechrau'r ymgyrch recriwtio honno nôl ym mis Ebrill, fydden ni ddim yn barod," ychwanegodd.
Dywedodd Mr RT Davies wrth Politics Wales fod y prif weinidog yn colli ei dymer yn y Senedd "tu hwnt i waradwyddus".
Ychwanegodd: "Roedd gen i'r hyder fel arweinydd yr wrthblaid i dynnu sylw at ddau achos penodol o unigolion... a oedd wedi gorfod aros yn rhy hir i ambiwlansys gyrraedd.
"Nawr, dyna fy swydd i, ond i'r prif weinidog geisio gwyro fel y gwnaeth i lywodraeth y DU wir yn dangos bod llywodraeth Lafur Cymru wedi rhedeg allan o atebion.
"Ydy, mae'r arian yn dod o San Steffan, ond mater i'r llywodraethau datganoledig yw penderfynu sut i'w wario.
"Rhwng 2010 a 2015 pleidleisiodd llywodraeth Lafur Cymru, yr unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig, i dorri eu cyllideb GIG tra bod pob llywodraeth arall - boed yn llywodraeth genedlaetholgar yn yr Alban, llywodraeth Geidwadol yn San Steffan neu Ogledd Iwerddon - i warchod y gyllideb iechyd.
"Yno mae yna hadau'r broblem rydyn ni'n ei wynebu heddiw," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022