Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro ar ffordd yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Church StreetFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei daro gan gerbyd ar Ffordd yr Eglwys, y Rhyl

Mae dyn wedi marw yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro gan gerbyd.

Cafodd y cerddwr ei daro ar Stryd yr Eglwys, Y Rhyl, fore Gwener a cafodd ei gludo i'r ysbyty.

Ond cadarnhaodd yr heddlu ei fod wedi marw fore Sadwrn, gyda'i berthnasau agosaf a'r crwner wedi cael gwybod.

"Mae ein meddyliau gyda'r dyn fu farw a'i deulu," dywedodd Sarjant Nicola Laurie o Uned Blismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig