Pêl-droed: Heddlu yn ymchwilio i ffrwgwd Bangor a'r Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Belle Vue stadium has hosted football in Rhyl since 1900Ffynhonnell y llun, Matthew Ashton
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyd y gêm gystadleuol cyntaf rhwng Rhyl 1879 a Bangor 1876 ar y Belle Vue brynhawn Sadwrn

Mae'r heddlu a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal ymchwilad wedi ffrwgwd mewn gêm rhwng timau Rhyl 1879 a Bangor 1876 dros y penwythnos.

Gwelwyd cyfanswm o saith cerdyn coch yn y gêm ar y Belle Vue brynhawn Sadwrn, gyda Bangor yn fuddugol o 2-1.

Mewn clip sydd wedi ei rannu ar wefannau cymdeithasol, mae'n ymddangos bod dyrnau'n cael eu taflu, gyda phum cerdyn coch hefyd yn cael eu dangos wrth i'r dyfarnwr ddod â'r gêm i ben.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun eu bod yn ystyried mesurau i "sicrhau fod y risg o'r math hwn o anhrefn yn cael ei leihau mewn gemau yn y dyfodol".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan The Ag Recruiter

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan The Ag Recruiter

Dywedodd rheolwr Rhyl 1879, Gareth Thomas - a gafodd ei anfon o'r fainc gan y dyfarnwr hefyd - bod ymddygiad y chwaraewyr yn "annerbyniol".

Roedd Y Rhyl eisoes i lawr i 10 dyn cyn y ffrwgwd yn ystod amser ychwanegol.

"Dydy'r golygfeydd yna ar y diwedd ddim yn ddigon da," dywedodd Gareth Thomas.

"Nid dyna beth rydyn ni wedi treulio 20 mis yn adeiladu'r clwb tuag ato, mae'n warth llwyr.

"Mae'n rhaid i'r chwaraewyr gymryd cyfrifoldeb. Nid yn unig maen nhw wedi siomi'r clwb, maen nhw wedi siomi'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed yma, doedd hynny ddim digon da ac nid yw'n rhywbeth a fydd yn parhau yn y clwb yma."

Hon oedd y gêm gystadleuol gyntaf erioed rhwng y ddau glwb, sydd wedi eu ffurfio gan gefnogwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

'Ystyried mesurau'

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd fod y llu hefyd yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yn ystod y gêm.

"Rydym yn ymwybodol o fideo sy'n cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos digwyddiad o anhrefn o fewn y maes chwarae ar ddiwedd y gêm bêl-droed rhwng Rhyl 1879 a Bangor 1876 brynhawn Sadwrn.

"Ar hyn o bryd rydym mewn cysylltiad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn ogystal â chynrychiolwyr y ddau glwb.

"Roedd swyddogion yn bresennol yn y gêm er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd, fodd bynnag, byddwn nawr yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad hwn, a byddwn yn ystyried unrhyw fesurau angenrheidiol i sicrhau bod y risg o unrhyw fath o anhrefn yn cael ei leihau mewn gemau yn y dyfodol."