Ail-danio gelyniaeth dau o glybiau mawr pêl-droed y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Belle Vue, RhylFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd hi'n bennod newydd yn hanes hen elyniaeth dros y penwythnos wrth i ddau o enwau mawr pêl-droed y gogledd fynd benben unwaith eto.

Mae wedi bod yn gyfnod o newid mawr ym Mangor a'r Rhyl ers y gêm ddiwethaf dair blynedd yn ôl.

Fe aeth CPD Y Rhyl i'r wal yn 2020 ac mae CPD Dinas Bangor wedi'i wahardd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ers y llynedd.

Erbyn hyn, CPD y Rhyl 1879 a Bangor 1876 sy'n mwynhau trwch y gefnogaeth.

Er nad ydy'r ddau yn agos yn ddaearyddol, fe ddatblygodd yr elyniaeth yn sgil llwyddiannau'r clybiau yn ystod dau ddegawd cyntaf Uwch Gynghrair Cymru.

Ond tra bod yr elyniaeth yn parhau yn y drydedd haen, mae'n debyg fod y ddau glwb â mwy yn gyffredin na sy'n eu gwahaniaethu.

'Edrych ymlaen at y dyfodol'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bangor 1876 yn chwarae yn Nhreborth, ar gyrion y ddinas

Tra bu i'r ddau glwb chwarae ochr yn ochr yn y ddinas am gyfnod, fe fygythiwyd gwahardd Dinas Bangor o "holl weithgareddau pêl-droed" yn Nhachwedd 2021 gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn sgil honiadau fod cyflogau heb gael eu talu.

Gyda Dinas Bangor heb ailddechrau chwarae ers tynnu 'nôl o'r ail haen yn gynharach eleni, Bangor 1876 yw prif glwb y ddinas erbyn hyn - er bod trwch y gefnogaeth eisoes wedi symud drosodd i'r clwb sy'n cael ei redeg gan y cefnogwyr.

Dywedodd Dafydd Hughes, ysgrifennydd Bangor 1876, wrth Cymru Fyw: "Oedd 'na nifer ohonon ni ddim yn hapus efo beth oedd yn mynd ymlaen [gyda chlwb Dinas Bangor], ac yn anffodus mae'r clwb yna wedi mynd i'r wal i bob pwrpas erbyn hyn.

"Da ni 'di bod yn eitha' llwyddiannus yn sicrhau ein bod ar ris tri y pyramid ac yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda pheth hyder.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Hughes: "Fel 'da ni'n mynd i fyny'r cynghreiriau... bydd yn rhaid i ni edrych ar y sefyllfa yn Nhreborth"

"'Naeth nifer o bobl dd'eud 'neith o byth weithio', ond dwi'n meddwl fod ni wedi 'neud o i weithio."

Wedi sicrhau dau ddyrchafiad mewn dau dymor, gobaith y clwb ydy sicrhau eu lle ym mhrif adrannau Cymru yn y man.

'Rhaid edrych ar y sefyllfa'

Ond er hynny, wrth i'r clwb frwydro i ddringo ymhellach i fyny'r cynghreiriau, mae cydnabyddiaeth bod sefyllfa'r cyfleusterau angen ystyriaeth.

Gyda CPD Dinas Bangor wedi symud o'u cartref ysbrydol ar Ffordd Ffarrar i stadiwm newydd Nantporth yn 2012, ers ei sefydlu mae Bangor 1876 wedi chwarae yn Nhreborth, sef cyfleuster chwaraeon sy'n berchen i Brifysgol Bangor ar lannau'r Fenai.

Ond cyfaddefodd Mr Hughes nad oedd lleoliad Treborth yn ddelfrydol, gyda thrafodaeth ymysg rhai cefnogwyr o'r posibilrwydd fod Bangor 1876 yn symud i Nantporth yn y man.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd CPD Dinas Bangor yn chwarae yn Nantporth

"Mae'n dyled ni'n fawr ofnadwy i Brifysgol Bangor... ond fel 'da ni'n mynd i fyny'r cynghreiriau ac yn gobeithio cyrraedd gris dau, bydd yn rhaid i ni edrych ar y sefyllfa yn Nhreborth.

"Tydi o ddim y lle hawddaf i gael ato a 'da ni 'di bod yn siomedig - yn y tymor cyntaf oeddan ni'n cael torfeydd o dros 500 ond 'da ni lawr rŵan i ryw 300 er bod ganddon ni dros 300 o aelodau sy'n berchen ar y clwb.

"Mae gynnon ni drwch reit fawr o gefnogwyr sydd wedi dod drosodd o'r hen Dinas Bangor."

'Diolchgar'

Stori digon tebyg oedd hi i'r Rhyl, oedd - fel Bangor - wedi mwynhau cyfnod llewyrchus ar frig pêl-droed yng Nghymru a sawl ymgyrch yn cynrychioli Cymru ar lefel Ewropeaidd.

Ond yn sgil problemau ariannol fe gyhoeddwyd yn Ebrill 2020 fod cyfarwyddwyr y clwb wedi dechrau'r broses o ddod â'r clwb blaenorol i ben yn dilyn trafferthion ariannol.

Yn fuan wedyn fe gyhoeddwyd byddai clwb newydd yn cael ei sefydlu, mewn cydweithrediad gyda Chymdeithas Cefnogwyr Y Rhyl.

Fel Bangor, cafodd y clwb newydd ei enwi ar ôl y flwyddyn sefydlwyd clwb cynta'r dref.

Yn eu tymor cyntaf gorffennodd y clwb ar frig y bedwaredd haen, gan lwyddo i beidio colli'r un gêm gynghrair drwy'r tymor.

Dywedodd Ffred Ffransis, sydd wedi bod yn gefnogwr Rhyl 1879 a'i ragflaenydd ers y 1950au, wrth Cymru Fyw: "Doedd dim posib parhau [gyda'r cyn-glwb] ond o fewn misoedd daeth criw o bobl at ei gilydd, rhai oedd yn gysylltiedig â'r hen glwb a rhai wynebau newydd.

"Mae'r torfeydd yn iach o ran y lefel 'da ni'n chwarae... mae rhywfaint o ergyd i falchder wedi bod ond 'da ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio i sicrhau fod clwb ganddon ni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Belle Vue wedi cynnal rhai o gemau mawr Y Rhyl yng nghystadlaethau UEFA

"Eleni yn haen tri 'da ni wedi ennill y pum gêm agoriadol, felly siŵr o fod 'da ni'r unig glwb yng Nghymru sy'n gallu dweud ein bod erioed wedi colli gêm gynghrair yn ein hanes!

"Yn gyfreithiol mae'r clwb yn un cyfan gwbl newydd ond mae'r traddodiad yr un traddodiad. Yr un cefnogwyr sydd, yr un gobaith, a chynrychioli enw'r dref a'r gymuned leol mewn cyfnod ddigon tywyll ar hyn o bryd - rhywbeth i bobl afael ynddo.

"Mae'r dyhead yna yn parhau.

"Gallwn ni sgorio pwyntiau bach fod Rhyl wedi cael dyrchafiad drwy haeddiant tra aeth Bangor i fyny yn ail gan fod rhywun arall wedi methu, ond wrth gwrs bod y Rhyl a Bangor, oherwydd eu hanes a'u cefnogaeth a photensial... mi ddylen nhw fod yn yr haen uchaf.

"Mi fyddai hynny'n dda i bêl-droed yn gyffredinol yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Ffred Ffransis: "'Da ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio i sicrhau fod clwb ganddon ni"

Ond gyda'r ddau glwb wedi dilyn llwybr ddigon cyfochrog, bydd yr ewyllys da yn cael ei roi i un ochr brynhawn Sadwrn wrth i'r Belle Vue gynnal y gêm gystadleuol gyntaf rhwng y ddau glwb 'newydd'.

"Mae'r Rhyl yn gêm roeddan ni'n edrych ymlaen ati pan roedd Dinas Bangor yn ei anterth fel petai. Roedd y trip i'r Rhyl yn un arbennig," meddai Dafydd Hughes.

"'Da chi'n chwarae ar gae pêl-droed iawn, a gyda phob parch i'r clybiau arall - da ni ddim isho swnio fel big time Charlies - ond bydd hi'n braf cael chwarae mewn stadiwm go iawn.

"Yn sicr mae o dipyn mwy na be 'da ni'n chwarae arno adra'. Mae 'na edrych ymlaen ofnadwy. Mae'n six pointer go iawn.

"Dwi'n siŵr fydd 'na dorf enfawr yna ddydd Sadwrn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llwyddiant y ddau glwb yn Uwch Gynghrair Cymru yn golygu eu bod yn aml yn cynrychioli Cymru ar lefel Ewropeaidd

Roedd Ffred Ffransis yn gytûn.

"Mae'n sefyllfa eironig," meddai. "Oedd cefnogwyr Rhyl yn wir deimlo dros gefnogwyr Bangor, er gwaetha'r elyniaeth dros y blynyddoedd, bod nhw wedi colli eu clwb.

"'Naeth cefnogwyr clwb newydd Bangor anfon pob dymuniad da i'r Rhyl yn sefydlu clwb newydd - 'da ni wedi rhannu'r un profiadau.

"Pwy a ŵyr, bosib fydd y gystadleuaeth ddipyn mwy cyfeillgar yn y dyfodol gan fod y ddau ohonom wedi mynd drwy'r un profiadau, ond mae o dal yn broblematig!

"Dydd Sadwrn fydd rhan ohona i ddim eisiau bod yna... mae gormod o dyndra lle 'da chi rili ddim eisiau colli!"