Teyrnged i 'gyn-reolwr bar a barbwr gorau Y Rhyl'

  • Cyhoeddwyd
Patrick Joseph McDonaldFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Patrick Joseph McDonald - neu Vinny fel roedd pawb yn ei nabod - yn gymeriad adnabyddus i lawer yn Y Rhyl

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai dyn lleol 82 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl.

Cafodd Patrick Joseph McDonald, oedd yn cael ei alw'n Vinny, ei daro gan gerbyd wrth gerdded yn Ffordd yr Eglwys ddydd Gwener.

Bu farw yn yr ysbyty y diwrnod canlynol ac mae ymchwiliad yr heddlu i'r achos yn parhau.

"Roedd Patrick neu 'Vinny' fel oedd pawb yn ei adnabod, yn dad, taid, hen daid a brawd cariadus," dywedodd ei deulu mewn datganiad

Roedd "yn ffrind i bawb", maen nhw'n dweud, ac yn gymeriad "poblogaidd" yn y dref.

"Roedd llawer o bobl yn hoffi ac yn gwybod am Vinny," meddai'r teulu yn eu datganiad.

"Os nad oedd yn hysbys iddynt fel rheolwr bar mewn sawl tafarn leol neu fel y barbwr gorau yn Y Rhyl, byddai Vinny yn ddiweddar yn cael ei weld yn cerdded yn ardal Y Rhyl tan ei farwolaeth ddisymwth."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd o gwmpas 09:45 fore Gwener, 21 Hydref.

Pynciau cysylltiedig